Klagenfurt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Gadeiriol Klagenfurt

Klagenfurt (enw llawn: Klagenfurt am Wörthersee), (Slofeneg: Celovec) yw prifddinas talaith Carinthia yn ne Awstria. Mae'r boblogaeth yn 90,100.

Saif Klagenfurt 446 metr uwch lefel y môr, ychydig i'r dwyrain o lyn Wörthersee ar lan afon Glan. Ceir prifysgol ac eglwys gadeiriol yma, ac mae'n ganolfan esgobaeth Gurk-Klagenfurt.

Ceir y cyfeiriad cyntaf at Forum Chlagenvurth yn 1193 - 1199. Ail-sefydlwyd y dref yn 1246 gan y tywysog Bernhard van Spanheim, a daeth yn ddinas yn 1252.