Avignon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol hanesyddol Avignon a'r Palais des Papes

Dinas yn ne-ddwyrain Ffrainc sy'n fwyaf enwog oherwydd iddi fod yn ganolfan rhai Pabau a Gwrth-Babau yn y Canol Oesoedd yw Avignon (Provençal: Avinhon neu Avignoun). Hi yw prifddinas département Vaucluse. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 89,300 yn y ddinas ei hun, ac roedd 290,466 yn yr ardal ddinesig yng nghyfrifiad 1999.

Hanes[golygu]

Saif y ddinas ar lan afon Rhône, ychydig filltiroedd yn uwch na'i chymer gydag afon Durance. Sefydlwyd hi gan lwyth Celtaidd y Cavares, ac yn ddiweddarch roedd ymsefydlwyr Phocaeaidd o Massilia (Marseilles heddiw) yma. Dan y Rhufeiniaid, fel Avenio, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf llewyrchus Gallia Narbonensis. Cyhoeddodd Avignon ei hun yn weriniaeth annibynnol ar ddiwedd y 12fed ganrif, ond yn ystod yr ymgyrch yn erbyn yr Albigensiaid (dilynwyr athrawiaeth y Cathar), cipiwyd y ddinas ar 13 Medi 1226 gan Louis VIII, brenin Ffrainc a legad y Pab. Gorfodwyd y ddinas i ddymchwel eu muriau.

Yn 1309, dewiswyd Avignon gan y Pab Clement V fel canolfan newydd yn lle Rhufain. Bu'r babaeth yma hyd 1377. Yn ystod yr Ymraniad Mawr (1378-1415), dychwelodd y Gwrth-babau Clement VII and Bened XIII i Avignon. Yn 1403, gorfodwyd Bened XIII i ffoi i Aragon.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

Adeilad enwocaf y ddinas yw'r Palais des Papes (Palas y Pabau). Dynodwyd canol hanesyddol Avignon a'r Palais des Papes yn Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco yn 1995. Mae'r ddinas yn adnabyddus hefyd oherwydd y gân Ffrangeg enwog i blant, "Sur le pont d'Avignon".

Enwogion[golygu]