Sêr-ddewiniaeth
Math o gyfrwng | superstition, branch of pseudoscience, difyrwaith |
---|---|
Math | ffugwyddoniaeth, white magic |
Yn cynnwys | Hindu astrology, Chinese astrology |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o systemau, traddodiadau a chredoau lle mae gwybodaeth o safle ymddangosiadol planedau a lloerenau'r gofod i'w weld yn ddefnyddiol wrth geisio deall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaeth person yw sêr-ddewiniaeth neu astroleg (Groeg: ἄστρον, ἄστρου ástron, ástrou "seren" + λόγος, λόγου lógos, lógou, "astudiaeth").
Gelwir person sy'n ymarfer sêr-ddewiniaeth, yn sêr-ddewin neu'n astrolegydd. Mae cofnodion o'r arfer hwn yn mynd nôl i tua'r 3 CC. Ym Mesopotamia a'r Hen Aifft roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio darogan y dyfodol.
Datblygodd seryddiaeth yn yr 17eg a'r 18g o'r hen wyddoniaeth a elwid yn astroleg. Seryddiaeth yw'r astudiaeth (parchus a gwyddonol) o'r gofod. Ond mae hen wyddoniaeth yr astrolegydd yn llawer mwy niwlog, cyfrin a heb ei dderbyn gan y byd gwyddonol modern. Mae'n perthyn yn agos at ddewiniaeth, yr horosgop, cyfriniaeth, ofergoeliaeth a darogan y dyfodol.
Er hyn, mewn holiadur yn 2005, dywedodd 25% o Americanwyr, 25% o Ganadiaid, a 24% o Brydeinwyr eu bod yn credu ynddo.[1] Bu Madam Sera ar Radio Cymru yn mynd drwy rannau o'r horosgop. Fe welir hefyd ddamcaniaethau bron ym mhob un o'r papurau tabloid yn ddyddiol. Canodd Tecwyn Ifan am ofergoeliaeth.
Yr anifail Tseiniaidd
[golygu | golygu cod]Mae sêr-ddewiniaeth dwyreiniol yn cydnabod dylanwad yr awr Sidydd (ymhlith unrhyw un o 12 o gyfnodau cyfartal yn ystod y dydd - 2 awr yr un) pan fo person yn cael ei eni a phob un yn gysylltiedig ag un o 12 anifail. Y drafferth, wrth gwrs, yw fod angen gwybod yr union amser geni (o ran lleoliad yr haul):
- 23:00 - 00:59: Llygoden fawr
- 01:00 - 02:59: Ych
- 03:00 - 04:59: Teigr
- 05:00 - 06:59: Cwningen
- 07:00 - 08:59: Draig
- 09:00 - 10:59: Neidr
- 11:00 - 12:59: Ceffyl
- 13:00 - 14:59: Gafr
- 15:00 - 16:59: Mwnci
- 17:00 - 18:59: Ceiliog
- 19:00 - 20:59: Ci
- 21:00 - 22:59: Mochyn
Mae'rmser safonol yn dibynnu ar y parth amser a hydred o leoliad geni.
I berson a anwyd yng Nghaerdydd, eu harwydd Sidydd fesul awr yw:
amser haf |
amser y gaeaf |
|
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Lyons, Linda (1 Tachwedd 2005). Paranormal Beliefs Come (Super)Naturally to Some. Gallup. Adalwyd ar 12 Hydref 2012.