Sêr-ddewiniaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Naddiad pren Flammarion 1888 wedi'i liwio â llaw.
Arwyddion y Sidydd ar naddiad pren o'r 16eg ganrif, Ewrop

Grŵp o systemau, traddodiadau a chredoau lle mae gwybodaeth o safle ymddangosiadol planedau a lloerenau'r gofod i'w weld yn ddefnyddiol wrth geisio deall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaeth person yw sêr-ddewiniaeth neu astroleg (Groeg: ἄστρον, ἄστρου ástron, ástrou "seren" + λόγος, λόγου lógos, lógou, "astudiaeth").

Gelwir person sy'n ymarfer sêr-ddewiniaeth, yn sêr-ddewin neu'n astrolegydd. Mae cofnodion o'r arfer hwn yn mynd nôl i tua'r 3edd ganrif CC. Ym Mesopotamia a'r Hen Aifft roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio darogan y dyfodol.

Datblygodd seryddiaeth yn y 17eg a'r 18fed ganrif o'r hen wyddoniaeth a elwid yn astroleg. Seryddiaeth yw'r astudiaeth (parchus a gwyddonol) o'r gofod. Ond mae hen wyddoniaeth yr astrolegydd yn llawer mwy niwlog, cyfrin a heb ei dderbyn gan y byd gwyddonol modern. Mae'n perthyn yn agos at ddewiniaeth, yr horosgop, cyfriniaeth, ofergoeliaeth a darogan y dyfodol.

Er hyn, mewn holiadur yn 2005, dywedodd 25% o Americanwyr, 25% o Ganadiaid, a 24% o Brydeinwyr eu bod yn credu ynddo.[1] Bu Madam Sera ar Radio Cymru yn mynd drwy rannau o'r horosgop. Fe welir hefyd ddamcaniaethau bron ym mhob un o'r papurau tabloid yn ddyddiol. Canodd Tecwyn Ifan am ofergoeliaeth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Lyons, Linda (1 Tachwedd 2005). Paranormal Beliefs Come (Super)Naturally to Some. Gallup. Adalwyd ar 12 Hydref 2012.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am sêr-ddewiniaeth
yn Wiciadur.