Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig
Gwleidydd Cymreig oedd Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig (23 Medi 1749 – 24 Gorffennaf 1789).
Mab hynaf o ail briodas Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwing i Frances Shackerley o Sir Gaer oedd Syr Watkin. Roedd dal yn faban pan laddwyd ei dad wrth ddisgyn oddi ar ei geffyl tra'n hela, ac etifeddodd ystadau helaeth Wynnstay. Wrth ddod i oedran yn 1770, cynhaliodd barti afradlon gyda 15,000 o westeion. Mae siwt frodiog, y gall ei fod wedi ei wisgo ar y pryd, yn Amgueddfa Cymru.[1]
Roedd yn aelod seneddol dros Swydd Amwythig rhwng 1772 a 1774, a dros Sir Ddinbych rhwng 1774 a 1789. Ef oedd Arglwydd Is-gapten Sir Feirionydd o 1775-1789. Roedd yn noddwr pwysig y celfeddydau, ac roedd George Frideric Handel y cyfansoddwr, a David Garrick y chwareuydd ymysg ei ffrindiau. Noddodd y telynor John Parry Ddall hefyd, a ddaeth yn fath o delynor teuluol yn Wynnstay.
Priododd ddwywaith, i Henrietta Somerset yn gyntaf, a fu farw'n fuan wedyn, ac i Charlotte Grenville, merch yr anrhydeddus George Grenville, ym mis Rhagfyr 1771. Fe gafodd dri mab a dwy ferch o'i ail briodas. Fe baentiodd Syr Joshua Reynolds bortread ohonno gyda'i ail wraig mewn gwisg theatrig, ac un arall o'i wraig a'i blant, tua 1778.
Sefydlodd ddwy ysgol ym mhlwyf Rhiwabon a chyfrannodd yn hael at Ysgol Gymraeg Llundain. Williams-Wynn oedd ail 'Benllywydd' Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[2] Ychwanegwyd at diroedd Wynnstay yn 1752, pan brynwyd stadau Mathafarn (gan gynnwys maenor Cyfeiliog) a Rhiwsaeson ar ei ran gan ei fam.[3]
| Senedd Prydain Fawr | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Richard Lyster a Charles Baldwyn |
Aelod seneddol Swydd Amwythig 1772–1774 |
Olynydd: Noel Hill a Charles Baldwyn |
| Rhagflaenydd: Syr Lynch Cotton |
Aelod seneddol Sir Ddinbych 1774-1789 |
Olynydd: Robert Watkin Wynne |
| Teitlau Anrhydeddus | ||
| Rhagflaenydd: William Vaughan |
Arglwydd Is-gapten Sir Feirionnydd 1775-1789 |
Olynydd: Watkin Williams |
| Barwnigion Lloegr | ||
| Rhagflaenydd: Watkin Williams-Wynn |
Barwnig (Gray's Inn) 1749–1789 |
Olynydd: Watkin Williams-Wynn |
Ffynonellau [golygu]
- ↑ Yr Amgueddfa'n prynu siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au.
- ↑ Cymm., 1951, 56-7
- ↑ WYNN (TEULU), Wynnstay, Rhiwabon.. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.