Charles Watkin Williams-Wynn (1775–1850)

Oddi ar Wicipedia
Charles Watkin Williams-Wynn
Ganwyd9 Hydref 1775 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Medi 1850 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Bwrdd Rheoli, Ysgrifennydd Rhyfel, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, President of the Royal Asiatic Society of Great Britain and Ireland Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadSyr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig Edit this on Wikidata
MamCharlotte Williams-Wynn Edit this on Wikidata
PriodMary Cunliffe Edit this on Wikidata
PlantSydney Williams-Wynn, Hariot Hester Williams-Wynn, Charlotte Williams-Wynn, Mary Williams-Wynn, Charles Watkin Williams-Wynn, Henry Watkin Williams-Wynn Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd Y Gwir Anrhydeddus Charles Watkin Williams-Wynn (9 Hydref, 17752 Medi, 1850) yn wleidydd Cymreig. Bu'n cynrychioli'r sedd bwdr enwog Hen Sallog (Old Sarum) o 1797 i 1799 ac yna etholaeth Sir Drefaldwyn o 1799 i 1850. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn gweinyddiaethau Torïaidd a Chwigaidd. Roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin (yr aelod efo'r cyfnod hiraf o wasanaeth di-dor) rhwng 1847 a 1850.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Charles Watkin Williams-Wynn yw'r bachgen yn y llun hwn gan Joshua Reynolds o'i fam, Charlotte Williams-Wynn, a'i phlant.

Roedd Charles Watkin yn ail fab i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig Wynnstay, Rhiwabon a Charlotte (née Grenville) ei wraig. Roedd y Ledi Charlotte yn ferch i George Grenville, Prif Weinidog Prydain (1763–1765) ac yn chwaer i William Wyndham Grenville, Barwn 1af Grenville (Prif Weinidog 1806–1807).

Addysgwyd Williams-Wynn yn Ysgol Westminster ac Eglwys Crist, Rhydychen gan raddio B.A. ym 1795, ac M.A. ym 1798. Cyfaill ysgol iddo oedd y bardd Robert Southey a bu Williams-Wynn yn noddi ei yrfa farddonol.

Priododd Mary Cunliffe, merch Syr Foster Cunliffe, 3ydd Barwnig, ym 1806. Bu iddynt saith o blant, dau fab a phum merch. Roedd eiumerch hynaf Charlotte Williams-Wynn yn ddyddiadurwr nodedig; bu ei fab hynaf, Charles Watkin Williams-Wynn (1822-1896), hefyd yn gwasanaethu fel AS Sir Drefaldwyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Galwyd Williams-Wynn i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1798 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdeithiau Rhydychen a Gogledd Cymru. Cafodd ei benodi yn feinciwr ym 1835. Bu yn Gofiadur Llys Sirol Croesoswallt 1798-1835[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1797 cafodd Williams-Wynn ei ethol i'r senedd fel un o'r ddau aelod a etholwyd gan lond llaw o fwrdeiswyr absennol ar gyfer etholaeth bwdr Hen Sallog o dan nawdd Richard Wellesley, 2il Iarll Mornington. Pan ddaeth hen sedd ei daid Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig, Sir Drefaldwyn, yn rhydd ym 1799 ymddiswyddodd fel aelod Hen Sallog a chael ei ethol dros Sir Drefaldwyn gan dal y sedd am 51 mlynedd ganlynol.

Ym 1806 fe'i penodwyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref yn y Weinyddiaeth a arweiniwyd gan ei ewythr yr Arglwydd Grenville. Parhaodd yn y swydd hyd ddymchwel y llywodraeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Williams-Wynn yn aelod gweithgar o'r Senedd ac yn cael ei ystyried yn awdurdod ar drefn Tŷ’r Cyffredin, gan hynny cafodd ei enwebu ar gyfer swydd y Llefarydd ym 1817, ond oherwydd nam ar ei leferydd awgrymodd rhai o'i wrthwynebwyr mai Squeaker byddai nid Speaker a chafodd ei orchfygu ar bleidlais gan Charles Manners Sutton.[3]

Yn y 1810au roedd Williams-Wynn yn arweinydd grŵp o Aelodau Seneddol a geisiodd, yn aflwyddiannus, i sefydlu trydedd blaid yn Nhŷ'r Cyffredin o dan nawdd ei gefnder yr Arglwydd Buckingham. Wedi methiant yr ymgyrch i greu trydedd blaid ymunodd a'r Torïaid.[4]

Ym mis Ionawr 1822 cafodd Williams-Wynn ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor a'i benodi yn Llywydd y Bwrdd Rheoli, gyda sedd yng nghabinet yn llywodraeth Dorïaidd Iarll Lerpwl. Arhosodd yn y swydd hon yng ngweinyddiaethau George Canning a'r Arglwydd Goderich. Pan ddaeth Dug Wellington yn Brif Weinidog yn 1828, ni chafodd cynnig swydd yn y llywodraeth gan hynny fe ymunodd a'r Chwigiaid a phan ddaeth y blaid honno i rym o dan arweiniad yr Arglwydd Grey ym 1830 penodwyd Williams-Wynn yn Ysgrifennydd Ryfel, ond heb sedd yn y cabinet. Parhaodd yn y swydd hyd fis Ebrill 1831 ond ni chafodd cynnig unrhyw swydd arall yn llywodraeth y Chwigiaid. Yn 1834 dychwelodd y Torïaid i rym o dan Syr Robert Peel, a phenodwyd Williams-Wynn yn Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn. Syrthiodd llywodraeth Peel mis Ebrill 1835 ac ni phenodwyd Williams-Wynn i unrhyw swydd wedi hynny. Parhaodd i gynrychioli Maldwyn yn y Senedd hyd ei farwolaeth ym 1850, rhwng 1847-1850 roedd yn Dad Tŷ'r Cyffredin.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Williams-Wynn yn 20 Stryd Grafton, Llundain, ar 2 Medi, 1850 yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell deuluol yng Nghapel San Siôr, Bayswater, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wynn, Charles Watkin Williams (DNB00), Wikisource [1] adalwyd 17 Mai 2015
  2. Charles Watkin Williams Wynn (1775–1850) ail gyhoeddwyd ar wefan History Home [2] adalwyd 17 Mai 2015
  3. WILLIAMS WYNN, Charles Watkin (1775–1850), of Langedwyn, Denb. yn History of Parliament online [3] adalwyd 17 Mai 2015
  4. The Defectors: A history of crossing the floor, Total Politics 2013 [4] Archifwyd 2015-10-15 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Francis Lloyd
Aelod Seneddol Maldwyn
17991850
Olynydd:
Herbert Watkin Williams-Wynn