Stotfold
Cyfesurynnau: 52°01′05″N 0°13′41″W / 52.018°N 0.228°W
| Stotfold | |
Melin Stotfold |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 6,190 |
|---|---|
| Plwyf | Stotfold |
| Awdurdod unedol | Central Bedfordshire |
| Swydd seremonïol | Swydd Bedford |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | HITCHIN |
| Cod deialu | 01462 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Dwyrain Lloegr |
| Senedd y DU | North East Bedfordshire |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref fechain a phlwyf yn Swydd Bedford, Lloegr yw Stotfold. Credir i'r enw darddu o ddefnydd y dref gan borthmyn o'r gogledd fel lle i dorri eu taith i'r de ar ffordd yr A1, wrth gorlannu eu ceffylau (stots) ar dir caeedig (folds), cyn parhau ar eu taith.
Mae'r dref yn gorchuddio 2,207 acer ac roedd ganddi boblogaeth o 6,190 yn ystod cyfrifiad 2001.[1] Mae'r Afon Ivel yn llifo drwy'r dref, a caiff y dref ei rannu gan ffordd hir High Street, sy'n gwahanu'r gogledd a'r de. Cysidrwyd Stotfold yn le cyfoethog yn yr 19eg ganrif, a dywedwyd i fyw yn Stotfold, rhaid cael £100 a mochyn. Mae eglwys y Santes Fair yn y dref yn dyddio o adeg y Normaniaid. Ceir dau barc a maes hamdden, ardal chwaraeon aml-ddefnydd a chae pêl-droed. Mae clwb pêl-droed Stotfold F.C. yn chwarae yn Roker Park.
Cynnwys |
Tirnodau [golygu]
Melin Ddŵr Stotfold [golygu]
Safai melin ddŵr Stotfold ar yr Afon Ivel, ac mae'n un o bedwar melin yn Stotfold a gofnodwyd yn y Domesday Book.[2] Dyma'r unig felin yn Stotfold sy'n parhau i weithio, ac mae wedi ei restru ar raddfa II.[3] Adnewyddwyd y felin yn gyfan gwbl wedi iddi losgi lawr ar 15 Rhagfyr 1992.[4] Agorwyd i'r cyhoedd ym ms Mai 2006, gyda agoriad swyddogol ym mis Hydref 2006 ac ymweliad yn fuan wedyn gan Ddug Caeredin ar 17 Tachwedd 2006.[5] Mae ganddi olwyn 4.4 medr sy'n saethu drosodd, hon yw'r lletaf yn y wlad.[6] Caiff y felin ei redeg fel elusen gan y Stotfold Mill Preservation Trust er mwyn cynnal a chadw'r felin a'r ardal leol.[7] Un o'r prif ddigwyddiadau er mwyn codi arian yw'r Stotfold Mill Steam and Country Fair a gynhelir yn flynyddol ym mis Mai, bu tua 8,500 o ymwelwyr yn 2010, gan godi £20,000.[8]
Ystadau [golygu]
Mae'r dref yn parhau i ehangu gyda nifer o ystadau newydd, megis Mill View a Fairfield Park. Lleolir Fairfield Park ar hen safle Ysbytu Fairfield, gan orchuddio ardal eang i'r de o Stotfold hyd dwyrain Arlesey. Trowyd yr hen ysbytu yn fflatiau moethus, gyda channoeddo dai newydd yn cael eu hadeiladu ar dir yr hen sefydliad iechyd meddyliol. Bydd Fairfield Park yn gwahannu o Stotfold ar 1 Ebrill 2013, pan fydd yn dod yn blwyf arwahan.
Trigolion o nôd [golygu]
Magwyd y seiclwraig Olympaidd a phencampwraig y byd, Victoria Pendleton, yn Stotfold. Yn 2007, ail-enwyd y trac seiclo rhwng Arlesey a Stotfold ar ei hôl er mwyn ei hanrhydeddu.[9]
Craig Vye, actor sydd wedi ymddangos yn Hollyoaks, Aqulia, London's Burning, Doctors a Skins.
Y saethwraig Nicky Hunt, a enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Census 2001: Parish Headcounts: Mid Bedfordshire. Office for National Statistics. Adalwyd ar 31 Hydref 2010.
- ↑ “Bedfordshire and Domesday”, Bedfordshire Historical Record Society, Quarto Memoir, 1922 vol. 1, by G. Herbert Fowler, p.72
- ↑ http://www.stotfoldmill.com/index.php?pg=bert_hyde.php
- ↑ http://www.stotfoldmill.com/bert_hyde.php?pg=history.php#Randall's%20Mill
- ↑ http://www.stotfoldmill.com/history.php?pg=time_line.php
- ↑ http://www.stotfoldmill.com/index.php?pg=history.php
- ↑ http://www.stotfoldmill.com/index.php?pg=opening.php
- ↑ http://www.thecomet.net/news/weather_failed_to_dampen_the_spirts_of_steam_fair_visitors_1_296064
- ↑ She's once, twice, three times a lady. Cyngor Sir Bedford.