SpaceX
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Space Exploration Technologies Corporation, neu SpaceX, yn gwmni a sefydlwyd gan Elon Musk yn 2002 er mwyn dylunio a lawnsio rocedi yn y farchnad ofod.[angen ffynhonnell] Mae SpaceX yn gyfrifol am y rocedi Falcon 1 a Falcon 9, yn ogystal â'r capsiwl gofod Dragon; ym Mai 2012, yn dilyn lawnsiad llwyddiannus y Dragon cyntaf i'r orsaf (heb griw), dechreuodd NASA ei defnyddio er mwyn cludo deunyddiau i'r Orsaf Ofod Rhyngwladol.
Mae SpaceX yn lleoledig yn Hawthorne, California.