Canolfan Ofod Kennedy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r Ganolfan yn wyn, Maes Awyr yr Awyrlu yn wyrdd
Y neuadd arddangosfaol

Mae Canolfan Ofod Kennedy ar Ynys Merritt yn Florida ac mae wedi cael ei defnyddio ar gyfer lansio llongau gofod yr Unol Daleithiau ers Rhagfyr 1968. Mae'r ganolfan yn denu twristiaid a cheir neuadd arddangosfa yno, gyda theithiau tywys hefyd.[1]

Hanes[golygu]

Agorwyd y ganolfan ar 1af Gorffennaf 1962, a chafodd ei henw presennol ar ôl marwolaeth Kennedy ym 1963.

Prosiect Mercher oedd yr un cyntaf, yn lansio unigolion i'r ofod. Wedyn daeth Prosiect Gemini; 10 ehediad, pob un efo 2 o bobl. Adeiladwyd Safle Lansiad 39 rhwng 1962 a 1965 ar gyfer rocedi Sadwrn. Gorffennodd Prosiect Gemini ym 1966.

Safle Lansiad 39
Yr ystafell reoli wreiddiol
Gwennol ofod

Bu farw Gus Grissom, Ed White and Roger Chaffee ar 27 Ionawr 1967 yn ystod sesiwn profi ar ddechrau Prosiect Apolo. Arweinodd y prosiect at Apolo 11 ar 16 Gorffennaf 1969 pan aeth Neil Armstrong, Buzz Aldrin a Michael Collins i'r lleuad.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolen Allanol[golygu]