Starlink

Oddi ar Wicipedia
Starlink
Enghraifft o'r canlynolclwstwr lloerenni Rhyngrwyd, prosiect Edit this on Wikidata
Màs227 cilogram, 260 cilogram, 295 cilogram, 800 cilogram, 1,250 cilogram Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Dechrau/SefydluIonawr 2015 Edit this on Wikidata
GweithredwrSpaceX Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSpaceX Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.starlink.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Starlink yn rhwydwaith o loerenni a grewyd ac a weithredir gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX,[1] sy'n darparu gwasanaeth i dros 70 o wledydd. Caiff hefyd ei alw'n 'gysawd y rhyngrwyd'. Bydd y rhwydwaith hwn hefyd yn wasanaeth ffonau symudol ar raddfa byd-eang erbyn 2024.[2]

Dechreuodd SpaceX lansio lloerennau Starlink ym Mai 2019. Yn Nhachwedd 2023, roedd gan y cytser o loerenni'n dros 5,500 o loerenni bach (wedi'u masgynhyrchu) mewn orbit isel o'r Ddaear (LEO)[3] ac maent yn cyfathrebu â throsglwyddyddion ar y Ddaear. Bydd y nifer terfynol o loerenni'n nes at 12,000; ac mae ail gam y cynllun yn cynyddu'r nifer hwn ymhellach - i tua 42,000 lloeren. Cyhoeddodd SpaceX ei fod wedi cyrraedd mwy nag 1 miliwn o danysgrifwyr yn Rhagfyr 2022, 1.5 miliwn o danysgrifwyr ym Mai 2023, a 2 filiwn o danysgrifwyr m Medi 2023. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn Rhyfel Rwsia-Wcrain.[4]

Lleolir cyfleuster datblygu lloerenno SpaceX yn Redmond, Washington sy'n gartref i'r ymchwil i'r dechnoleg, sy'n datblygu'r lloerenni o ddydd i ddydd, sy'n gweithgynhyrchu'r lloerenni ac yn rheoli'r cylchdroeon (orbits). Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm cost dylunio, adeiladu a defnyddio'r gytser o leiaf US$10 biliwn.[5] Yn Ionawr 2017 amcangyfrifodd SpaceX y byddai'r refeniw blynyddol gan Starlink tua $12 biliwn erbyn 2022[6] ac yn fwy na $30 biliwn erbyn 2025.[7] Dywedwyd bod refeniw gwirioneddol o Starlink yn 2022 yn $1.4 biliwn.[8] Disgrifiwyd y perfformiad hwn fel "methiant" gan SpaceX.[8][9][10]

Mae seryddwyr wedi codi pryderon am yr effaith y gallai'r cytser ei chael ar seryddiaeth ar y Ddaear, a sut y bydd y lloerenni'n cyfrannu negyddol at amgylchedd orbital sydd eisoes yn orlawn.[11] Mae SpaceX wedi ceisio lliniaru pryderon seryddol gyda mesurau i leihau disgleirdeb y lloerennau. Byddant yn dad-orbitio yn otomatig ar ddiwedd eu hoes. Maent hefyd wedi'u cynllunio i osgoi gwrthdrawiadau yn annibynnol ac yn llyfn yn seiliedig ar ddata tracio.[12]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn gynnar yn 2014, aeth Elon Musk a Greg Wyler ati i weithio gyda’i gilydd i gynllunio cytser o tua 700 o loerennau o’r enw WorldVu, a fyddai dros 10 gwaith maint y cytser o loerenni fwyaf ar y pryd, sef Iridium.[13] Fodd bynnag, daeth y trafodaethau hyn i ben ym Mehefin 2014, a ffeiliodd SpaceX gais ITU trwy Awdurdod Cyfathrebu Norwy o dan yr enw STEAM.[14] Cadarnhaodd SpaceX y cysylltiad mewn cais yn 2016 i drwyddedu Starlink gyda'r Comisiwn Cyfathrebu Ffederal (FCC) yn UDA. Sicrhaodd SpaceX yr nod masnach Starlink yn yr Unol Daleithiau[15] enw a ysbrydolwyd gan nofel John Green The Fault in Our Stars (2012).[16]

Cyfnod dylunio (2015-2016)[golygu | golygu cod]

Cyfleuster datblygu lloerenni SpaceX yn Redmond, Washington; lleoliad a ddefnyddiwyd rhwng 2015 a chanol 2018

Dadorchuddiwyd Starlink yn gyhoeddus ym Ionawr 2015 pan agorwyd cyfleusterau datblygu lloerenni SpaceX yn Redmond, Washington. Yn ystod yr agoriad, dywedodd Musk fod galw sylweddol ledled y byd am Ryngrwyd band-llydan, cost isel.[17] ac y byddai Starlink yn cludo hyd at 50% o'r holl draffig cyfathrebu ôl-gludo, a hyd at 10% o draffig Rhyngrwyd lleol yn ninasoedd y byd.[18] Dywedodd Musk y byddai'r llif arian cadarnhaol o werthu gwasanaethau rhyngrwyd lloeren yn angenrheidiol i ariannu cynlluniau SpaceX i gyrraedd y blaned Mawrth.[19] At hynny, mae gan SpaceX gynlluniau hirdymor i ddatblygu a defnyddio fersiwn o'r system gyfathrebu lloeren ar blaned Mawrth.[20]

Erbyn Hydref 2016, roedd yr is-adran loerenni yn canolbwyntio ar gost mor isel a phosibl i'r defnyddiwr. Dywedodd Llywydd SpaceX, Gwynne Shotwell bryd hynny, fod y prosiect yn parhau yn y "cyfnod dylunio wrth i'r cwmni geisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chost terfynell y defnyddiwr".[21]

Dechrau'r cyfnod datblygu (2016-2019)[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2016, gwnaeth SpaceX gais gyda’r FCC am “system loeren orbit nad yw’n geosefydlog (NGSO) yn y gwasanaeth lloeren sefydlog gan ddefnyddio’r bandiau amledd Ku- a Ka-”.

Ym Medi 2017, dyfarnodd yr FCC fod yn rhaid i hanner y cytser fod mewn orbit o fewn chwe blynedd i gydymffurfio â thelerau trwyddedu, tra dylai'r system lawn fod mewn orbit o fewn naw mlynedd i ddyddiad y drwydded.[22]

Falcon 9 yn codi o Orsaf Awyrlu Cape Canaveral (CCAFS), Florida, gan gludo 60 o loerennau Starlink i orbit ar 11 Tachwedd 2019

Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm y gost datblygu ac adeiladu'r cytser yn agosáu at $10 biliwn.[23] Yng nghanol 2018, ad-drefnodd SpaceX yr is-adran datblygu lloerenni yn Redmond, a daeth swyddi sawl aelod o'r tim uwch reoli i ben.[24]

Lansiadau cyntaf (2019–2020)[golygu | golygu cod]

Ar ôl lansio dwy loeren brawf yn Chwefror 2018, lansiwyd y swp cyntaf o 60 lloeren gweithredol ym Mai 2019.[25]

Yn Nhachwedd 2020, agorwyd gwasanaeth rhyngrwyd beta Starlink i'r cyhoedd.[26] Adroddodd profwyr beta Starlink gyflymderau o dros 150 megabit yr eiliad, uwchlaw'r ystod a gyhoeddwyd ar gyfer y prawf beta cyhoeddus.[27]

Gwasanaeth masnachol (2021-presennol)[golygu | golygu cod]

Terfynell defnyddiwr Starlink cynnar gyda dysgl, fel y'i gwelwyd yn gynnar yn 2021

Agorwyd rhag-archebion i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau a Chanada yn gynnar yn 2021.[28]

Yn gynharach roedd yr FCC wedi dyfarnu gwerth $885.5 miliwn o gymorthdaliadau ffederal i SpaceX i gefnogi cwsmeriaid band eang gwledig mewn 35 o daleithiau UDA trwy Starlink [29] ond diddymwyd y pecyn cymorth $885.5 miliwn yn Awst 2022, gyda’r FCC yn nodi bod Starlink “wedi methu â dangos” ei allu i ddarparu’r gwasanaeth a addawyd.[30] Apeliodd SpaceX yn ddiweddarach yn erbyn y penderfyniad gan ddweud eu bod wedi bodloni neu ragori ar yr holl ofynion defnyddio RDOF a oedd yn bodoli yn ystod y cynnig a bod yr FCC wedi creu “safonau newydd na allai unrhyw gynigydd eu bodloni heddiw”.[31]

Yn 2022, cyhoeddodd SpaceX haen gwasanaeth Starlink Business, fersiwn perfformiad uwch o'r gwasanaeth. Mae'n darparu antena mwy a chyflymder rhestredig rhwng 150 a 500 Mbit yr eiliad gyda chost o $2,500 am yr antena a ffi gwasanaeth misol o $500.[32] Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cefnogaeth 24/7, wedi'i flaenoriaethu.[32][33] Cymeradwyodd yr FCC hefyd drwyddedu gwasanaethau Starlink i gychod, awyrennau a cherbydau.[34] Arweiniodd y prinder sglodion byd-eang 2020-presennol at ddim ond 5,000 o danysgrifwyr am ddau fis cyntaf 2022 ond cafodd hyn ei ddatrys yn fuan.[35]

Yn Chwefror 2022, cyhoeddodd Musk fod lloerennau Starlink wedi’u hactifadu dros yr Wcrain ar ôl cais gan lywodraeth y wlad i ddisodli gwasanaethau rhyngrwyd a ddinistriwyd yn ystod goresgyniad Rwsia o’r Wcráin yn 2022.

Ym Mai 2022, cyhoeddodd ymchwilwyr milwrol Tsieina erthygl mewn cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid yn amlinellu strategaeth ar gyfer dinistrio cytser Starlink os ydyn nhw'n bygwth diogelwch cenedlaethol Tsieina.[36][37][38] Mae'r ymchwilwyr yn tynnu sylw'n benodol at bryderon ynghylch galluoedd milwrol potensial Starlink. Datganodd Musk bod Starlink i'w ddefnyddio mewn modd heddychlon. Mae swyddogion Rwsia gan gynnwys pennaeth asiantaeth ofod Rwsia Dmitry Rogozin wedi rhybuddio Elon Musk y gallai Starlink ddod yn darged milwrol cyfreithlon yn y dyfodol.[39][40]

Ym Mawrth 2023, adroddodd y cwmni eu bod yn cynhyrchu chwe lloeren Starlink "V2 Mini" y dydd yn ogystal â miloedd o derfynellau defnyddwyr. Mae gan y V2 Mini nodweddion lloeren Gen2 Starlink ond mae angen defnyddio Starship gyda diametr o 9-metr ar loerennau Gen2 er mwyn eu lansio. Roedd gan uned fusnes Starlink un chwarter llif arian-positif yn ystod 2022.

Cyrhaeddodd nifer tanysgrifwyr Starlink ledled y byd 2.3 miliwn erbyn Rhagfyr 2023.[41]

Mis Tanysgrifwyr Cyf
Chwefror 2021 ≈ 10,000 [42]
Mehefin 2021 ≈ 100,000 [43]
Chwefror 2022 ≈ 250,000
Mai 2022 ≈ 400,000
Mehefin 2022 ≈ 500,000
Medi 2022 ≈ 700,000 [44]
Rhagfyr 2022 ≈ 1,000,000 [45]
Mai 2023 ≈ 1,500,000 [46]
Medi 2023 ≈ 2,000,000 [47]
Rhagfyr 2023 ≈ 2,300,000 [48]

Lloerennau milwrol[golygu | golygu cod]

Elon Musk a'r cadfridog pedair seren Terrence J. O'Shaughnessy yn Ebrill 2019

Mae SpaceX hefyd yn dylunio, yn adeiladu ac yn lansio lloerenni milwrol wedi'u teilwra yn seiliedig ar amrywiadau o'r lloeren Starlink, a'r cwsmer mwyaf adnabyddus yw Asiantaeth Datblygu Gofod (SDA).

Rhaglen Starshield[golygu | golygu cod]

Yn Rhagfyr 2022, cyhoeddodd SpaceX raglen o'r enw Starshield, rhaglen i ymgorffori cargo milwrol neu lywodraethol ar Starlink Block v1.5 a thechnoleg v2.0.[49] Mae'r lloerennau hyn yn drymach, gyda dwywaith yr arwynebedd na Starlink v1.5 ac mae ganddyn nhw ddau bâr o baneli solar yn hytrach nag un ar Starlink Block v1.5.[50] Er bod Starlink wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd masnachol, mae Starshield wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd llywodraeth yr UD, gyda ffocws cychwynnol ar dri maes, sef, clustfeinio, cyfathrebu a chynnal llwythi.

Mae lloerennau Starshield yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gallu integreiddio amrywiaeth eang o lwythi, gan gynnig amlochredd unigryw i ddefnyddwyr. Bydd lloerennau Starshield yn gydnaws â, ac yn rhyng-gysylltu â, lloerennau masnachol presennol Starlink trwy ddolenni rhyng-loeren optegol.[51]

Ym mis Medi 2023, derbyniodd y rhaglen Starshield ei chontract cyntaf gan Lu Gofod yr UD i ddarparu lloerenni cyfathrebu wedi'u teilwra ar gyfer byddin yr UD.[52] Mae hyn o dan raglen “Proliferated Low Earth Orbit” ar gyfer lloerenni LEO, lle bydd Space Force yn dyrannu hyd at $900 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf. Er bod 16 o werthwyr yn cystadlu am wobrau, contract SpaceX yw'r unig un sydd wedi'i gyhoeddi hyd yma.[52]

Cyfathrebu milwrol[golygu | golygu cod]

Yn 2019, dangosodd profion gan Labordy Ymchwil Llu Awyr yr Unol Daleithiau (AFRL) 610  gyswllt data 610 Mbit/s trwy Starlink i awyren Beechcraft C-12 Huron a oedd yn hedfan.[53] Yn ogystal, ar ddiwedd 2019, llwyddodd Awyrlu'r Unol Daleithiau i brofi'r cysylltiad â Starlink ar gunship AC-130 yn llwyddiannus.[54]

Rhyfel Rwsia-Wcrain[golygu | golygu cod]

Vitali Klitschko, Maer Kyiv, a'i frawd Wladimir Klitschko gyda therfynellau Starlink wedi'u cludo i Kyiv yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022

Cafodd Starlink ei actifadu yn ystod goresgyniad Rwsia o Wcráin, ar ôl cais gan Lywodraeth Wcrain.[55] Daeth byddin a llywodraeth Wcráin yn ddibynnol ar Starlink i gynnal mynediad i'r Rhyngrwyd dros nos.[56][57][58] Defnyddir Starlink gan Wcrain ar gyfer cyfathrebu, daearleoli taflegrau ac offer milwrol eraill, cadw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan a chadw'r seilwaith ynni i weithio.[59][60]

Defnyddir y gwasanaeth ar gyfer rhyfela drwy gysylltu dronau ymladd, dronau morol, systemau cydgysylltu magnelau ac ymosodiadau ar safleoedd milwrol Rwsia.[61][62] Mae SpaceX wedi mynegi amheuon ac wedi ceisio atal defnyddio Starlink gan at ddibenion milwrol Wcrain, hy y tu hwnt i gyfathrebu milwrol ac wedi cyfyngu ar dechnoleg cyfathrebu Starlink at ddefnydd milwrol a'u harfau.[63] Fodd bynnag, cadwodd SpaceX y rhan fwyaf o'u gwasanaethau yn Wcrain ar-lein.[64][65] Mae defnyddio Starlink i gynorthwyo ymosodiadau ar dargedau Rwsiaidd wedi cael ei feirniadu gan y Cremlin.[66]

Rhybuddiodd Musk bod y gwasanaeth yn costio $20 miliwn y mis,[67] ac ym Mehefin 2023 llofnododd Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau gontract gyda SpaceX i ariannu Starlink yn Wcrain.[68][69]

Rhyfel Israel yn erbyn y Palesteiniaid[golygu | golygu cod]

Yn Hydref 2023 yn dilyn gwrthdaro Israel-Hamas, rhannodd defnyddwyr yr hashnod #starlinkforgaza ar rwydwaith cymdeithasol X Elon Musk (Twitter yn flaenorol), gan fynnu ei fod yn actifadu Starlink yn Gaza ar ôl i Israel ddileu'r gwasanaeth Rhyngrwyd yn Gaza.[70] Atebodd Musk y byddai cysylltedd Starlink yn cael ei ddarparu ar gyfer grwpiau cymorth yn Gaza, a gwnaethpwyd hynny.[71][72]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Grush, Loren (15 February 2018). "SpaceX is about to launch two of its space Internet satellites – the first of nearly 12,000". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2019. Cyrchwyd 16 February 2018.
  2. Kolodny, Lora (25 August 2022). "SpaceX and T-Mobile team up to use Starlink satellites to 'end mobile dead zones'". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 August 2022. Cyrchwyd 26 August 2022.
  3. McDowell, Jonathan (4 May 2023). "Starlink Launch Statistics". Jonathan's Space Pages. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 December 2023. Cyrchwyd 5 May 2023.
  4. Macias, Amanda; Sheetz, Michael (1 June 2023). "Pentagon awards SpaceX with Ukraine contract for Starlink satellite internet". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2023. Cyrchwyd 15 September 2023.
  5. Baylor, Michael (17 May 2018). "With Block 5, SpaceX to increase launch cadence and lower prices". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2018. Cyrchwyd 22 May 2018. The system is designed to improve global Internet access by utilizing thousands of satellites in Low Earth orbit. SpaceX President Gwynne Shotwell stated in a TED Talk last month that she expects the constellation to cost at least US$10 billion. Therefore, reducing launch costs will be vital.
  6. Bajwa, Arsheeya (13 September 2023). "SpaceX's Starlink falls short of growth expectations despite revenue surge - WSJ". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2023. Cyrchwyd 19 November 2023.
  7. Winkler, Rolfe; Pasztor, Andy (13 January 2017). "Exclusive Peek at SpaceX Data Shows Loss in 2015, Heavy Expectations for Nascent Internet Service". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2020. Cyrchwyd 9 February 2018.
  8. 8.0 8.1 Maidenberg, Micah; Winkler, Rolfe (13 September 2023). "Starlink Surges but Is Still Far Short of SpaceX's Goals, Documents Show". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 November 2023. Cyrchwyd 19 November 2023.
  9. "Starlink falls short of customer and revenue goals - IT World Canada". www.itworldcanada.com. 14 September 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 November 2023. Cyrchwyd 19 November 2023.
  10. Vasani, Sheena (13 September 2023). "SpaceX's Starlink made $1.4 billion last year". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 November 2023. Cyrchwyd 19 November 2023.
  11. "JASON Report on the Impacts of Large Satellite Constellations". National Science Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 October 2021. Cyrchwyd 20 October 2021.
  12. Winkler, Rolfe (7 November 2014). "Elon Musk's Next Mission: Internet Satellites". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 October 2017. Cyrchwyd 10 September 2021.
  13. Fernholz, Tim (24 June 2015). "Inside the race to create the next generation of satellite internet". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 September 2021. Cyrchwyd 10 September 2021.
  14. Boyle, Alan (19 September 2017). "SpaceX seeks to trademark the name "Starlink" for satellite broadband network". GeekWire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2020. Cyrchwyd 13 May 2019.
  15. "How Indianapolis author John Green inspired one of Elon Musk's most grand ideas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2020. Cyrchwyd 15 May 2019.
  16. Foust, Jeff (10 October 2016). "Shotwell says SpaceX "homing in" on cause of Falcon 9 pad explosion". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 August 2017. Cyrchwyd 16 October 2016.
  17. Gates, Dominic (16 January 2015). "Elon Musk touts launch of "SpaceX Seattle"". The Seattle Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2015. Cyrchwyd 19 January 2015.
  18. Foust, Jeff (12 March 2018). "Musk reiterates plans for testing BFR". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2020. Cyrchwyd 15 March 2018. Construction of the first prototype spaceship is in progress. "We're actually building that ship right now", he said. "I think we'll probably be able to do short flights, short sort of up-and-down flights, probably sometime in the first half of next year".
  19. "SpaceX will build Starlink-like constellation around Mars, its president says". Futurism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2021. Cyrchwyd 28 April 2021.
  20. de Selding, Peter B. (5 October 2016). "SpaceX's Shotwell on Falcon 9 inquiry, discounts for reused rockets and Silicon Valley's test-and-fail ethos". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2017. Cyrchwyd 8 October 2016.
  21. "Updating Rules for Non-Geostationary-Satellite Orbit Fixed-Satellite Service Constellations" (PDF). FCC. 7 September 2017. t. 44. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 May 2021.
  22. Baylor, Michael (17 May 2018). "With Block 5, SpaceX to increase launch cadence and lower prices". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2018. Cyrchwyd 22 May 2018. The system is designed to improve global Internet access by utilizing thousands of satellites in Low Earth orbit. SpaceX President Gwynne Shotwell stated in a TED Talk last month that she expects the constellation to cost at least US$10 billion. Therefore, reducing launch costs will be vital.Baylor, Michael (17 May 2018). "With Block 5, SpaceX to increase launch cadence and lower prices". NASASpaceFlight.com. Archived from the original on 18 May 2018. Retrieved 22 May 2018. The system is designed to improve global Internet access by utilizing thousands of satellites in Low Earth orbit. SpaceX President Gwynne Shotwell stated in a TED Talk last month that she expects the constellation to cost at least US$10 billion. Therefore, reducing launch costs will be vital.
  23. Boyle, Alan (31 October 2018). "SpaceX reorganizes Starlink satellite operation, reportedly with high-level firings". GeekWire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2020. Cyrchwyd 2 November 2018.
  24. "Starlink Press Kit" (PDF). spacex.com. 15 May 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 May 2019. Cyrchwyd 23 May 2019.
  25. Mathewson, Samantha (5 November 2020). "SpaceX opens Starlink satellite internet to public beta testers". Space.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 November 2020. Cyrchwyd 11 March 2021.
  26. "SpaceX's Starlink Internet speeds are consistently topping 150 Mbps — now Elon Musk says the biggest challenge is slashing the US$600 up-front cost for users". Business Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2020. Cyrchwyd 6 November 2020.
  27. "SpaceX opens Starlink satellite Internet pre-orders to the public". Engadget. 10 February 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 February 2021. Cyrchwyd 10 February 2021.
  28. "SpaceX's Starlink wins nearly US$900 million in FCC subsidies to bring Internet to rural areas". cnbc.com. CNBC. 9 December 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 December 2020. Cyrchwyd 10 December 2020.
  29. Fingas, J. (10 August 2022). "FCC rejects Starlink request for nearly $900 million in broadband subsidies". Engadget. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 August 2022. Cyrchwyd 11 August 2022.
  30. "Starlink appeals FCC rejection of $886M grant, calls reversal "grossly unfair"". Ars Technica. 12 September 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2022. Cyrchwyd 15 September 2022.
  31. 32.0 32.1 Porter, Jon (2 February 2022). "SpaceX's new Starlink Business tier promises up to 500Mbps for $500 a month – The new antenna carries an upfront cost of $2500". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 June 2022. Cyrchwyd 3 February 2022.
  32. SpaceX (2 February 2022). "Starlink Business". Starlink. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2022. Cyrchwyd 29 March 2022.
  33. Rainbow, Jason (31 August 2022). "Starlink secures first cruise line customer with Royal Caribbean". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 December 2023. Cyrchwyd 31 August 2022.
  34. "Starlink Deliveries Slow Amid Chip Shortage, FedEx Delays". PC Magazine. January 7, 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 January 2023. Cyrchwyd January 1, 2023.
  35. Stephen Chen (25 May 2022). "China military must be able to destroy Elon Musk's Starlink satellites if they threaten national security: scientists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 June 2022. Cyrchwyd 18 June 2022.
  36. REN, Yuan-zhen; JIN, Sheng; LU, Yao-bing; GAO, Hong-wei; SUN, Shu-yan (2022). "The Development Status of Starlink and Its Countermeasures". Modern Defense Technology 50 (2): 11–17. doi:10.3969/j.issn.1009-086x.2022.02.002. https://www.xdfyjs.cn/EN/10.3969/j.issn.1009-086x.2022.02.002.
  37. Passant Rabie (27 May 2022). "Chinese Researchers Publish Strategy to Destroy Elon Musk's Starlink". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 June 2022. Cyrchwyd 18 June 2022.
  38. "Russia warns West: We can target your commercial satellites". Reuters (yn Saesneg). 2022-10-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2022. Cyrchwyd 2023-09-27.
  39. Ed Browne (16 September 2022). "Fact Check: Did Kremlin Threaten to Destroy Starlink Satellites?". Newsweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 September 2022. Cyrchwyd 18 September 2022.
  40. "SpaceX no longer taking losses to produce Starlink satellite antennas, a key step to improving profitability". CNBC. 13 September 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2023. Cyrchwyd 15 September 2023.
  41. "SpaceX says its Starlink satellite Internet service now has over 10,000 users". CNBC. 4 February 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2021. Cyrchwyd 5 February 2021.
  42. "SpaceX president says Starlink global satellite broadbrand service to be live by September". 23 June 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2021. Cyrchwyd 23 June 2021.
  43. "Starlink has 700,000 subs". 19 September 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 September 2022. Cyrchwyd 23 September 2022.
  44. @ (19 December 2022). (Trydariad) https://twitter.com/ – drwy Twitter. Missing or empty |title= (help)CS1 maint: numeric names: authors list (link)SpaceX [@SpaceX] (19 December 2022). "Starlink now has more than 1,000,000 active subscribers" (Tweet). Archived from the original on 30 July 2023. Retrieved 13 March 2023 – via Twitter.
  45. @ (May 6, 2023). (Trydariad) https://twitter.com/ – drwy Twitter. Missing or empty |title= (help)CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  46. "Starlink Announces 2 Million Active Subscribers: Growth Going Geometric". BigTechWire. 24 September 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2023. Cyrchwyd 24 September 2023.
  47. "USA 320, ..., 323, 328, ..., 331". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2023. Cyrchwyd 3 December 2022.
  48. "Starshield: Supporting National Security". SpaceX. 2 December 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 December 2022. Cyrchwyd 2 December 2022.
  49. "SpaceX Releases 'Starshield' Satellite Services Designed for Government Use to Support National Security". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2022. Cyrchwyd 3 December 2022.
  50. 52.0 52.1 "Starlink's Starshield wins contract with US Space Force" (yn Saesneg). 2023-09-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 September 2023. Cyrchwyd 2023-09-28.
  51. Erwin, Sandra (22 October 2019). "SpaceX plans to start offering Starlink broadband services in 2020". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 October 2019. Cyrchwyd 17 February 2020.
  52. Insinna, Valerie (22 January 2020). "The Air Force tested its Advanced Battle Management System. Here's what worked, and what didn't". DefenseNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 January 2020. Cyrchwyd 29 September 2020.
  53. "@elonmusk while you try to colonize Mars — Russia try to occupy Ukraine! While your rockets successfully land from space — Russian rockets attack Ukrainian civil people! We ask you to provide Ukraine with Starlink stations and to address sane Russians to stand". Twitter. 26 February 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 October 2022. Cyrchwyd 6 June 2023.
  54. Sabbagh, Dan (2023-02-09). "Fury in Ukraine as Elon Musk's SpaceX limits Starlink use for drones". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2023. Cyrchwyd 2023-05-20.
  55. "How Elon Musk's satellites have saved Ukraine and changed warfare". The Economist. ISSN 0013-0613. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 September 2023. Cyrchwyd 2023-06-06.
  56. "How Elon Musk's Starlink satellite internet keeps Ukraine online". The Kyiv Independent (yn Saesneg). 2022-09-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 June 2023. Cyrchwyd 2023-06-06.
  57. Bajak, Frank (9 February 2023). "Musk deputy's words on Starlink 'weaponization' vex Ukraine". The Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 April 2023. Cyrchwyd 28 April 2023.
  58. "Krieg in der Ukraine: Die Erfolgsgeschichte der ukrainischen Artillerie". YouTube. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 June 2022. Cyrchwyd 19 June 2022.
  59. "How Elon Musk's satellites have saved Ukraine and changed warfare". The Economist. ISSN 0013-0613. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 September 2023. Cyrchwyd 2023-06-06."How Elon Musk's satellites have saved Ukraine and changed warfare". The Economist. ISSN 0013-0613. Archived from the original on 23 September 2023. Retrieved 6 June 2023.
  60. Sutton, HI (15 February 2023). "Starlink Limits Ukraine's Maritime Drones At Time Of New Russian Threat". Naval News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 February 2023. Cyrchwyd 15 February 2023.
  61. Hern, Alex (2022-10-16). "Elon Musk says SpaceX will keep funding Starlink internet in Ukraine". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 October 2022. Cyrchwyd 2023-06-06.
  62. Capaccio, Anthony. "Elon Musk's SpaceX Wins Pentagon Deal for Starlink in Ukraine". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 June 2023. Cyrchwyd 1 June 2023.
  63. ""Steven Seagal is calling" - circus on Russian television (Break the Fake)". TVP World. YouTube. 3 February 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 February 2023. Cyrchwyd 10 February 2023.
  64. Bajak, Frank (9 February 2023). "Musk deputy's words on Starlink 'weaponization' vex Ukraine". The Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 April 2023. Cyrchwyd 28 April 2023.Bajak, Frank (9 February 2023). "Musk deputy's words on Starlink 'weaponization' vex Ukraine". The Associated Press. Archived from the original on 28 April 2023. Retrieved 28 April 2023.
  65. Stone, Mike; Roulette, Joey (2023-06-01). "SpaceX's Starlink wins Pentagon contract for satellite services to Ukraine". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 June 2023. Cyrchwyd 2023-06-01.
  66. Capaccio, Anthony. "Elon Musk's SpaceX Wins Pentagon Deal for Starlink in Ukraine". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 June 2023. Cyrchwyd 1 June 2023.Capaccio, Anthony. "Elon Musk's SpaceX Wins Pentagon Deal for Starlink in Ukraine". Bloomberg. Archived from the original on 1 June 2023. Retrieved 1 June 2023.
  67. "'Starlink Internet For Gaza': Netizens Ask Elon Musk For Help Amid Israel Strikes". TimesNow (yn Saesneg). 2023-10-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2023. Cyrchwyd 2023-10-27.
  68. Rose, Emily; Kaur, Baranjot (2023-10-28). "Musk says Starlink will provide Gaza connectivity for aid groups". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 November 2023. Cyrchwyd 2023-11-01.
  69. "Archived copy". 29 November 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 November 2023. Cyrchwyd 2 December 2023.CS1 maint: archived copy as title (link)