Sora no Otoshimono

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Eiddo Coll y Nefoedd (そらのおとしもの Sora no Otoshimono?, yn llythrennol: "Eiddo coll o'r awyr"), yn fanga sydd wedi'i sgwennu a'i ddarlunio gan Suu Minazuki. Mae'r plot yn troi o gwmpas Tomoki Sakurai, sy'n fachgen oed glasoed sy'n chwilio am fywyd tawel. Mae'n dod ar draws merch o'r enw Ikaros, sydd gan adenydd, ac sy'n dod yn 'servant' iddo fo. Enw'r math yma o fanga ydy Shōnen.

Yn Mai 2007 y cychwynwyd cyhoeddi'r gyfres - mewn cylchgrawn o'r enw Shōnen Ace. Cafwyd addasiad anime yn 2009 ar gyfer y teledu,[1] a thymor arall wedyn, 2 ffilm a 2 gêm fideo.

Cyfeiriadau[golygu]