Sofliar
Oddi ar Wicipedia
| Sofliar | ||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
| Enw deuenwol | ||||||||||||||
| Coturnix coturnix (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Sofliar (Coturnix coturnix) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod. Mae'n nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu, mae'r Sofliar yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica.
Ar lawr y mae'r Sofliar yn nythu, mewn cnydau neu laswellt. Gall nythu pan nad ond yn 6 - 8 wythnos oed. Dodwyir 6 - 18 ŵy.
Gellir adnabod y Sofliar yn weddol hawdd os ceir golwg dda arni, ond mae'n aml yn anodd iawn ei gweld; ei chlywed a wneir gan mwyaf. Mae'n aderyn bychan, 17 cm o hyd, gydag adenydd hir. Pryfed a hadau ye ei bwyd.
Mae niferoedd bychan o'r Soliar yn nythu yng Nghymru yn yr haf, ond mae'n aderyn pur brin fel rheol. Ambell flwyddyn, ceir niferoedd mwy.