Shaheen Jafargholi
| Shaheen Jafargholi | |
|---|---|
| Delwedd:Delwedd rhydd.jpg |
|
| Ganwyd | 1997 |
| Enwau eraill | Shaheen tuma Jafargholi |
| Yn enwog am | Britain's Got Talent, Torchwood, Casualty |
| Galwedigaeth | canwr, actor |
Mae Shaheen tuma Jafargholi (ganed 1997) yn actor a chanwr Cymreig-Iranaidd o Abertawe, Cymru. Daeth yn enwog ar ôl iddo ganu ar y gyfres deledu Britain's Got Talent yn y DU.
Cynnwys |
Ei gefndir [golygu]
Mae Jafargholi yn byw gyda'i fam Karen sydd wedi gwahanu o'i dad Iranaidd.[1] Ar hyn o bryd, mae'n ddisgybl ym mlwyddyn 7 Ysgol Gymunedol Dylan Thomas [2] ac mae'n mynychu Ysgol Berfformio Mark Jermin ar ddyddiau Sadwrn. Gwelwyd Jafargholi ar raglen ddogfen BBC Cymru o'r enw Starstruck a oedd yn dilyn hynt a helynt plant yr ysgol berfformio am chwe mis.
Perfformiadau [golygu]
Chwaraeodd Jafargholi ran y cymeriad Troy (cymydog Jason) yn y gyfres deledu i blant Grandpa In My Pocket.[3]. Mae ef hefyd wedi actio yn y rhaglen deledu Torchwood yn y rhifyn "Greeks Bearing Gifts", yn chwarae cymeriad Danny - plentyn y gwallgofddyn o dad[4] yn ogystal a chymryd rhan yn y gyfres deledu meddygol Casualty, lle chwaraeodd rhan Christy Skinner, claf a oedd yn ddioddef o'r rhug.[5] Aeth Jafargholi ar daith hefyd gyda "Thriller - Live" lle chwaraeodd rhan Michael Jackson ifanc.[6]
Perfformiodd Jafargholi hefyd yng nghyngerdd deyrnged Michael Jackson yn Los Angeles ar y 7fed o Orffennaf, 2009.[7]
Ffilmograffiaeth [golygu]
| Blwyddyn | Gwaith | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2004 | Casualty | Christy Skinner | Teledu; rhaglen "Inside Out" |
| 2006 | Torchwood | Danny | Teledu; rhaglen "Greeks Bearing Gifts" |
Dolenni allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Britain's Got Talent Shaheen Jafargholi is already TV veteran Mirror.co.uk. 19-04-2009. Adalwyd 07-07-2009
- ↑ (Saesneg) School roots for singer Shaheen BBC. Adalwyd 07-07-2009
- ↑ (Saesneg) [http://www.bbc.co.uk/programmes/b00hn98y "The Robot to Beat All Robots". BBC. Adalwyd ar 2009-04-26.
- ↑ (Saesneg) 1.07: GREEKS BEARING GIFTS". Canllaw Torchwood. Adalwyd ar 2009-04-26.
- ↑ Britain's Got Talent Shaheen Jafargholi is already TV veteran Mirror.co.uk. 19-04-2009. Adalwyd 07-07-2009
- ↑ (Saesneg) "Biographies CAST". Flying Music. Adalwyd ar 2009-04-26.
- ↑ (Saesneg) British boy Shaheen Jafargholi, 12, to sing at Michael Jackson service. The Times online. 07-07-2009. Adalwyd 07-07-2009