Sgwrs Defnyddiwr:RichieLanners

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
  Croeso!  

Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddionadur rhydd yn Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth am gyfrannu at Wicipedia, cewch ddechrau gan ymweld â'r tudalennau cymorth canlynol:
Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid a/neu Wicipedia:Cymorth. Croeso i chi ofyn cwestiynau yn y Caffi hefyd.

Fe obeithiwn ni y byddwch chi'n mwynhau cyfrannu yma.

Welcome. You can also ask questions in English in the café.

Cofion cynnes,Rhys 21:04, 27 Ionawr 2009 (UTC)


Croeso[golygu cod]

Croeso i'r Wicipedia, Richie, a phob lwc gyda'r erthygl Meysydd pêl-droed. Dw i wedi dechrau rhest tebyg am feysydd chwaraeon Cymru, ond rhaid i fi wneud mwy o waith arno.--Ben Bore 20:40, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch![golygu cod]

Diolch Ben, rydw i wedi bod yn ceisio cwpla'r ddogfen yma am bron i fod blwyddyn! Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor annodd oedd hi i ddarganfod cynhwysedd stadiymau cenhedlaethol! Rydw i yn mynd i gario ymlaen nawr a cheisio cyfeithiau mwy o erthyglau.

Pob Hwyl Richie

Mae'n edrych fel tipyn o waith. Ond cyn i ti fynd ymhellach, cymer ofal wrth greu dolenni; mae unrhywbth ti'n sgwennu rhwng "[[" a "]]" yn troi'n ddolen i dudalen sy'n bodoli'n barod, neu i ddolen coch ar gyfer tudalen i'w greu yn y dyfodol (gobeithio!).
Does dim erthygl ar gyfer pob tîm cenedlaethol eto'n anffodus, ond mae rhai. Dw i wedi newid dolen at dim ond Cymru i ddolen at Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (fel hyn: [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]]). Does dim erthygl am dîm cenedlaethol Indonesia, ond dwi wedi newid y ddolen i [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Indonesia|Indonesia]] beth bynnag.
O ran enwau clybiau, byddwn yn osgoi eu Cymreigio, does dim ethygl am Manceinion Unedig, ond mae yna un am Manchester United, yr un fath gyda pethau fel AS Rhufain ac ati.
Rhif 13 ydy clwb o Ecwador o'r enw Barcelna Sporting Club, ond roeddet ti wedi rhoi doeln at [[Barcelona]] sy'n mynd at erthygl am ddinas Barcelona.
Sori i swnio mor anal, ond mewddl bydde ti eisiau gwybod cyn i ti ychwanegu mwy. Dwi wedi golygu'r 20 uchaf hyd yma (mae hwn yn danogs y newidiadau), mi wnaf i'r geddill yn y man os wyt ti eisiau fy help. --Ben Bore 22:38, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am fod mor drwyadl hefo'n erythgl. Gymerodd hwn dros flwyddyn i mi gasglu at ei gilydd felly rwy'n falch fod rhywun arall yn fodlon i'w edrych arno! Newydd dechrau ysgrifennu côd Wici ydw i felly rydw i'n dal i ddysgu pob gair hud (a'r termolog ar gyfer geiriau i gyfrifiaduron yng Nghymraeg).

Fyddai'n rhoi seibiant i archwilio i mewn i meysydd pêl-droed am y tro ond rydw i'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd y amser i arolygu'n ngwaith i.

Mae côd Wicipedia (neu'r meddalwedd MediaWiki sy'n ei bwreu) yn tipyn gahanol i gôd arfer o'r ychydig dwi'n ddeall. Os nad oes ots gyda ti, mi wna i dynnu'r cromfachau sgwar i ffwrdd enwau'r maesydd pêl-droed, gan ei fod yn anhebygol bydd pobl eraill yn creu erthyglau amdanynt. Mae dolenni coch (at erthyglau sydd ddim yn bodoli) yn edrych reit hyll, ac o bosib yn gwyro rhai ystadegau.
Rho dy draed i fyny am sbel - yna tyrd yn ôl a chreu erthyglau am y timeau pêl droed i gyd!!!--Ben Bore 21:45, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]