Sgwrs:Y Waun Ddyfal

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Be di' enw cydnabyddedig y lle yn Gymraeg felly, "Y Waun" neu "Y Mynydd Bychan"??? Os cywir yr olaf mae angen newid enw'r erthygl wrth gwrs. Anatiomaros 16:17, 18 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Mae na gryn ddryswch am hyn. Y Mynydd Bychan sy'n cael ei arfer yn fwyaf cyffredin am Heath dw i'n credu, ond wedyn Ysbyty'r Waun yw Heath Hospital, o bosib gan fod rhywun wedi edrych yn y geiriadur o dan Heath a gweld Gwaun. Mae'r ddau yn Bruce. Awgrym y cyfrannwr diweddaraf i'r erthygl hon yw mai Y Mynydd Bychan yw Greater Heath a Y Waun Ddyfal yw Little Heath, fel mae'r erthygl Saesneg yn ei awgrymu hefyd, gan gyfeirio at Heol y Crwys. Y broblem yw bod Heol y Crwys yn Cathays, ar y ffin â'r Rhath. Mae na gôr cymharol newydd yn Cathays, o'r enw Côr Aelwyd y Waun Ddyfal.
Mae na sawl dadl wedi bod am hyn ar maes-e, a'r casgliad (o ryw fath) dw i'n meddwl o hynny oedd mai Y Mynydd Bychan yw'r Heath, a Y Waun Ddyfal yw Cathays, er bod rhai yn defnyddio Y Waun ar gyfer Heath yn enwedig wrth gyfeirio at yr Ysbyty Athrofaol... Dyma dair o'r dadleuon mwyaf perthnasol:
http://maes-e.com/viewtopic.php?t=7920&
http://maes-e.com/viewtopic.php?f=8&t=21827&
http://maes-e.com/viewtopic.php?f=38&t=4663&
Beth yw can of worms yn Gymraeg? :-) Jac y jwc 09:30, 19 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Erthygl yn bodoli'n barod - angen cyfunno[golygu cod]

Mae defnyddiwr wedi golygu'r erthygl heno a fel mai Y Mynydd Bychan yw'r enw cywir ac y cymgymerid yr enw fel Y Waun. Heb erdych ar y dudalen sgwrs, yma dwi'n cydfynd ac ar fi symud y dudalen, Y Mynydd Bychan. Bach yn brysur rwan, ond mae angen uno cynnwys y dau. Mae tudalen sgwrs yr erthygl hon gyda chynyws, ond mae'r erthygl arall o fewn blwch llywio {{Cymunedau Caerdydd}}.--Ben Bore (sgwrs) 19:34, 22 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Y Mynydd Bychan a'r Waun Ddyfal[golygu cod]

Mae'r ddau enw hyn yn hen enwau, ac nid yw'n gwbl glir ymhle yr oedd ffiniau yr ardaloedd dan sylw. Ond mae un peth yn sicr, sef nad yr un lle oeddyn nhw. Felly mae angen newid yr erthygl hon a'r ailgyfeiriadau iddi.

Beth bynnag am y sefyllfa hanesyddol, erbyn heddiw, fel y dengys gwefan Cyngor Caerdydd a ffynonellau eraill, defnyddir Y Mynydd Bychan i olygu Heath. Felly mae angen adfer tudalen ar gyfer Y Mynydd Bychan.

Nid yw'r Waun Ddyfal yn enw a arferir i'r un graddau. Yn hanesyddol, roedd yn cynnwys rhannau o Cathays, ond nid y cyfan. Felly byddwn yn awgrymu cadw erthyglau ar wahan i Cathays a'r Waun Ddyfal.

Ond yn ymarferol, sut y mae mynd ati i adfer tudalen ar gyfer y Mynydd Bychan? Troellwr (sgwrs) 21:02, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn gwybod digon am hanes enwau lleoedd Caerdydd i farnu dilysrwydd y dadleuon, er bod dy ddadl uchod ac yn yr erthygl yn ymddangos yn rhesymol, ond gwelaf fod Llywelyn wedi ailgyfeirio Y Mynydd Bychan i fan yma ond ychydig o ddyddiau 'nôl. Bodolaeth y dudalen yna sy'n rhwystro symud hyn, felly yr unig ffordd ydy dileu'r hen erthygl 'Y Mynydd Bychan' ac wedyn symud hyn i'r enw hwnnw (dwi'n meddwl, oni bai fod dadl dros symud y dudalen honno unwaith eto ac wedyn dileu'r ailgyfeiriad?). Ond cyn gwneud hynny, sy'n golygu dileu hanes sawl cyfraniad, dwi eisiau bod yn hollol siwr ein bod yn gwneud y peth iawn. Anatiomaros (sgwrs) 21:28, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno bod angen gofal, ac mae dryswch hanesyddol wedi bod am hyn. Ond mae'r sefyllfa yn glir bellach - dyma a ddywedd yr Athro Gwynedd Pierce mewn erthygl ar 'Y Mynydd Bychan' mewn un o gyfres o ysgrifau ar 'Enwau lloeoedd Caerdydd a'r Cylch', Y Gadwyn LVII.7 (Medi 2006), t. 8: 'Prin fod yna neb erbyn hyn nad yw yn gwybod mai'r enw Cymraeg ar yr ardal a adwaenir yn Saesneg fel The Heath yw hwn'.Troellwr (sgwrs) 14:54, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
O'r hyn wela i does dim cytundeb, na fawr o gyfeiriadau am y Mynydd Bychan. Dim son yn fama: ENWAU LLEOEDD CAERDYDD A’R CYFFINIAU gan yr Athro Gwynedd Pierce nac ar Dictionary of Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen ayb. Troellwr: wnei di roi dolen i'r cyfeiriad rwyt ti'n ei ddyfynu os gweli di'n dda, os yw ar y we. Gan nad yw'r Mynydd Bychan yn gymuned, dydy o ddim chwaith yn Gwyddoniadur Cymru nac ar restr y Cyfrifiad. Mi unais y ddwy erthygl gan fod y Gwyddoniadur (tud 120) yn manylu ar Waun Ddyfal ac ar ei ol mewn cromfachau (Heath) a chredais i (fel yr Athro GP) mai'r Heath oedd y Mynydd Bychan. Yn wir, brawddeg agoriadol y darn am y Waun Ddyfal (ar Gwydd Cym) ydy: Tir comin oedd y Waun Ddyfal, neu'r Mynydd Bychan, am ganrifoedd... Efallai ei bod yn bryd i ni gychwyn adran ar dudalen sgwrs y Gwydd Cym yn nodi eu holl gangymeriadau, er mwyn iddyn nhw gael man cychwyn pan fyddant yn ei ddiweddaru! Beth felly ddylid ei wneud? Beth am ail-greu erthygl Mynydd Bychan gan nodi'r dadleuon yn y fan honno? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:22, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Does dim dolen yn anffodus. Ond dyma nodi ambell beth arall. Y ddwy nodwedd amlycaf yn Heath yw Heath Park a'r ysbyty athrofaol. O ran y gyntaf, term Cyngor Caerdydd yw Parc y Mynydd Bychan. Term Prifysgol Caerdydd am safle'r ysbyty (sydd hefyd yn gampws prifysgol) yw Campws Parc y Mynydd Bychan (Croeso i Gaerdydd). Ar lefel ward etholiadol, y Mynydd Bychan yw'r enw Cymraeg a ddefnyddir gan y Cyngor am Heath, gw. Y Mynydd Bychan neu'r rhestr o gynghorwyr (Cynghorwyr A-Y). Nid yw'r ward fel y mae heddiw yn cyfateb yn union i'r Mynydd Bychan hanesyddol (dim mwy nag y mae'r Heath presennol a hanesyddol ), ond nid yw hynny'n annisgwyl (a dyna sydd wraidd sylwadau'r Gwyddoniadur, o bosib). Gwendid anorfod y Gwyddoniadur yw nad yw'n nodi ffynonellau, felly nid oes modd hawdd i wirio ffeithiau. Gallwn nodi'n anecdotaidd fod defnydd eang o'r enw y Mynydd Bychan i olygu Heath, ond rwy'n credu bod y ffynonellau uchod yn dangos hynny.Troellwr (sgwrs) 21:16, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Dim mond i gadarnhau - byddwn o blaid creu tudalen i'r Mynydd Bychan, a chadw tudalennau ar wahân ar gyfer Cathays a'r Waun Ddyfal. Troellwr (sgwrs) 08:22, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
Diolch, Cloddiwr, am dy arweiniad. Mae dwy erthygl yn bodoli rwan: Waun Ddyfal a'r Mynydd Bychan. - Llywelyn2000 (sgwrs) 06:09, 11 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]