Sgwrs:Rhestr o seintiau Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Listiriabot Rwy'n meddwl mae angen trafodaeth ar ffynnonellau ar gyfer Rhestr o Seintiau Cymru. Rwth RwthTomos1948 (sgwrs) 06:26, 25 Mai 2018 (UTC)[ateb]



Tabl?[golygu cod]

Copiwyd y drafodaeth o Sgwrs:Tegai:

Beth am greu tabl o'r seintiau, gan nodi pob eglwys a alwyd ar eu holau hefyd. Gwaith hirfaith, ond defnyddiol iawn dwi'n siwr? Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 22:52, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n syniad ardderchog, Lywelyn, ond mae'n golygu llawer iawn o waith. Wyt ti'n gwybod fod gennym ni y rhestr (hynod angyflawn) Rhestr o seintiau Cymru? Un o'r anawsterau ydy fod 'na sawl ffurf ar enwau rhai o'r seintiau, yn ôl y ffynhonnell: amrywiadau yn ffurf yr enwau Cymraeg a hefyd rhwng yr enw[au] Cymraeg a'r fersiwn/fersiynau Saesneg. Hefyd mae'n ansicr yn achos rhai o'r seintiau llai os ydy'r enw yn cyfeirio at un sant neu santes neu at dau neu dri dan yr un enw. Cymhleth, a deud y lleia! Efallai mai ehangu'r rhestr sydd gennym ni yn barod ydy'r peth gorau am rwan ac wedyn, yn y dyfodol, gellid defnyddio hynny fel sail i drefn fel yr un rwyt ti'n awgrymu? Anatiomaros 23:06, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON Dwi'n mynd i gopio hyn i sgwrs Rhestr o seintiau Cymru - mwy priodol fan 'na efallai? Anatiomaros 23:06, 4 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mae calendar o ŵyliau seintiau Cymru ar dudalennau 70–75 o'r llyfr hwn. Byddai'n braf cynnwys y rhain – a'r eglwysi a gysegrir i'r seintiau – mewn tabl fel yr awgrymwyd uchod ac ar y tudalennau 1 Ionawr a.y.y.b. Rwy'n hapus i wneud hyn ond fe wneiff gymryd amser maith. Gallwn efallai, rhywbryd yn y dyfodol, gynnwys adran "ar y diwrnod hwn..." ar y dudalen flaen, sy'n cynnwys y gŵyliau hyn (neu y rhai mwy pwysig). Ham (sgwrs) 10:51, 21 Tachwedd 2014 (UTC)[ateb]

Ceinwen a Cain[golygu cod]

Ai'r un yw Ceinwen a Chain? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:45, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Tabl eglwysi a lleoedd yn dwyn enw'r sant[golygu cod]

Mae'r cod yma'n creu tabl o lefydd sy'n dwyn enw'r sant:

{{Wikidata list |sparql=#defaultView:Map SELECT ?item ?coor ?image ?itemLabel WHERE { ?item wdt:P825\u007Cwdt:P138 wd:'''CODQiwBAstioYma''' . OPTIONAL { ?item wdt:P625 ?coor } OPTIONAL { ?item wdt:P18 ?image } SERVICE wikibase:label { bd:serviceParam wikibase:language "cy,en" } } |links=text |sort=label |columns=number:#,label:Eglwys neu Gymuned,P18:Delwedd,P625:Cyfesurynnau,P131:Lleoliad,item:Wicidata |thumb=128 }} {{Wikidata list end}}

Newid

Yr unig beth sydd angen ei newid wedi i chi ei gopio ar dudalen y sant ydy ffindio cod unigryw y sant ar Wicidata a'i bastio yn lle CODQiwBAstioYma ee. Y CodQ am Santes Ffraid ydy Q680538 (gweler yma.

Byddai'n braf gosod y tabl hwn ar bob sant a santes! Gellir ei weld ar dudalen Santes Ffraid. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:53, 9 Chwefror 2017 (UTC)[ateb]