Sgwâr Mount Stuart

Oddi ar Wicipedia
Sgwâr Mount Stuart
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTre-Biwt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.47°N 3.17°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Sgwâr preswyl a masnachol yng Nghaerdydd, Cymru yw Sgwâr Mount Stuart . Fe'i lleolir yn ardal Butetown y ddinas. Wedi'i ddatblygu'n wreiddiol ar ddiwedd y 1800au fel lleoliad preswyl ar gyfer gweithwyr y dociau cyfagos, daeth yn ganolfan ar gyfer eiddo preswyl uwchraddol a oedd yn ymdroi o amgylch y prif sgwâr. Erbyn 1900, yr oedd gweithgarwch masnachol wedi cymryd ei le, a ddominyddwyd gan y Gyfnewidfa Lo, a feddiannai'r man canolog a oedd unwaith yn agored. Mae'r sgwâr yn cynnwys casgliad o adeiladau rhestredig, sy'n cynrychioli amrywiaeth o arddulliau pensaernïol a rhai o enghreifftiau gorau Caerdydd o bensaernïaeth fasnachol diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Dynodwyd ardal Sgwâr Mount Stuart yn Ardal Gadwraeth ym mis Gorffennaf 1980. [1]

Cartref tebygol Cynulliad 1979[golygu | golygu cod]

Yn dlyn Adroddiad Comisiwn Kilbrandon penderfynwyd cynnal refferendwm ar ddatganoli pwerau i Gymru a'r Alban gan sefydlu cynulliad i Gymru. Petai Cymru wedi pleidleisio dros ddatganoli yn Refferendwm Cymru 1979 yna, mae'n debyg mai adeilad y Cyfnewidfa Lo yn Sgwâr Mount Stuart fyddai wedi bod cartref y siambr a'r sefydliad.[2] Wedi hynny, awgrymwyd y gallai'r un adeilad fod yn gartref i'r sianel Gymraeg newydd, S4C a sefydlwyd yn 1982.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mount Stuart Square: Conservation Area Appraisal, Cardiff County Council, 2009
  2. {[cite web |url=https://historypoints.org/index.php?page=the-coal-exchange-cardiff-bay |title=The Coal Exchange, Cardiff Bay |publisher=History Points |access-date=25 Hydref 2022}}
  3. Evans, Catherine; Dodsworth, Steve; Barnett, Julie (1984), Below the Bridge: A photo-historical survey of Cardiff's docklands to 1983, Cardiff: National Museum of Wales Cardiff, pp. 37–38, ISBN 0-7200-0288-5

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • Square peg Blog Dic Mortimer ar hanes adeiladau ardal Sgwâr Mount Stuart a methiannau Datganoli a chynllunio, 2014