Sefydliad Brenhinol Cernyw
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas ddysgedig, sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Chwefror 1818 |
Lleoliad | Truru |
Isgwmni/au | Courtney Library |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Sefydliad Brenhinol Cernyw (enw swyddogol: Royal Institute of Cornwall) yn gymdeithas Ddysgedig yn Truru, prifddinas Cernyw.
Fe'i sefydlwyd yn Truru ar 5 Chwefror 1818 fel y Cornwall Literary and Philosophical Institution.[1] Roedd y Sefydliad yn un o'r cynharaf o saith cymdeithas debyg a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr. Symudodd yr RIC i'w safle presennol yn River Street ym 1919 i'r adeilad a oedd yn Truro Savings Bank yn wreiddiol. Cymerodd ei enw presennol (Royal Institution of Cornwall) yn 1821 ar ôl derbyn nawdd brenhinol. Mae'n elusen gofrestredig o dan gyfraith Lloegr.[2]
Roedd gan Sefydliad Brenhinol Cernyw ddiben addysgol, gyda'r amcan 'i hyrwyddo addysg y cyhoedd trwy annog a hyrwyddo astudiaeth a gwybodaeth o lenyddiaeth, y gwyddorau naturiol, archaeoleg, hanes, ethnoleg, daeareg a'r celfyddydau cain a chymhwysol, gyda cyfeiriad arbennig at Gernyw'.[3]
Sefydlu Amgueddfa Frenhinol Cernyw[golygu | golygu cod]
Mae Sefydliad Brenhinol Cernyw yn berchen ar ac yn rheoli Amgueddfa Frenhinol Cernyw, sydd ag arddangosfa barhaol ar hanes Cernyw o'r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw, yn ogystal â hanes naturiol Cernyw gan gynnwys casgliad o fwynau Cernywaidd o bwysigrwydd rhyngwladol, a casgliad rhagorol o serameg a chelfyddyd gain.
Mae adeilad yr amgueddfa hefyd yn gartref i Lyfrgell Courtney y Sefydliad, sy'n dal c. 40,000 o gyfrolau printiedig, 35,000 o lawysgrifau a dogfennau, papurau newydd o 1737, mapiau printiedig, cyfnodolion, printiau ac effemera. Mae'n arbenigo mewn hanes teuluol a hanes lleol. Mae gwasanaeth llungopïo wedi'i staffio gydag uchafswm archeb o 10 tudalen, mae aelodau'n talu tâl gostyngol am allbrintiau o ficrofiche a llungopïo.
Mae’r llyfrgell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am –1 pm a 2pm–5pm, ar ddydd Sadwrn 10am–1pm ac ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau Banc Statudol. Nid yw'r archifau ar gael ar ddydd Iau.[4]
Cyngres Geltaidd[golygu | golygu cod]
Yn 1950 cynhaliwyd cyfarfod y Gyngres Geltaidd yn adeilad y Sefydliad. Yn y gynhadledd yma yn sgil y trafodaethau Pan-geltaidd gyda chynrychiolwyr o'r gwahanol wledydd Celtaidd, y symbylwyd i sefydlu Mebyon Kernow, yn 1951. Sefydlwyd MK yn wreiddiol fel grŵp pwyso dros hawliau Cernywaidd ac yna ddaeth yn blaid wleidyddol genedlaethol Cernyw.[5][6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Title Page". Journal of the Royal Institution of Cornwall 2. 1867. https://archive.org/stream/journalofroyalin2186667roya#page/n237/mode/2up. Adalwyd 4 November 2012.
- ↑ "EW charity 1150749 The Royal Institution of Cornwall". Comisiwn Elusennau DU. Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.
- ↑ "Our Transformation". Gwefan Amgueddfa Frenhinol Cernyw. Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.
- ↑ Courtney Library Cornish History Research Centre leaflet
- ↑ Deacon, Cole & Tregidga 2003, t. 29
- ↑ Williams 2014, t. 12