Ryan O'Neal

Oddi ar Wicipedia
Ryan O'Neal
Llun gyhoeddusrwydd o Ryan O'Neal o 1968.
Ganwyd20 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 2023 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Phillips
  • Hollywood Professional School
  • Munich American High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt Edit this on Wikidata
TadCharles O'Neal Edit this on Wikidata
MamPatricia O'Callaghan Edit this on Wikidata
PriodLeigh Taylor-Young, Joanna Moore Edit this on Wikidata
PartnerFarrah Fawcett Edit this on Wikidata
PlantTatum O'Neal, Griffin O'Neal, Patrick O'Neal, Redmond O'Neal Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Actor ffilm a theledu Americanaidd oedd Charles Patrick Ryan O'Neal (20 Ebrill 19418 Rhagfyr 2023).

Ganed ef yn Los Angeles, Califfornia, yn fab o'r nofelydd a sgriptiwr Charles "Blackie" O'Neal a'r actores Patricia Callaghan. Treuliodd gyfnodau hir o'i fachgendod yn y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Mecsico, a'r Caribî. Dychwelodd i Los Angeles i fynychu'r uwchysgol. Ym 1958, cafodd ei waith cyntaf ar gyfer y sgrin fel rhodiwr a styntiwr ar y gyfres deledu Tales of the Vikings, pan oedd ei rieni yn gweithio ar y gyfres honno yn yr Almaen.[1] Wedi saith mis gyda'r cynhyrchiad hwnnw, dychwelodd O'Neal i Galiffornia i geisio am yrfa yn Hollywood. Cafodd fân-rannau mewn sawl rhaglen deledu yn nechrau'r 1960au, gan gynnwys The Untouchables, Laramie, Leave It to Beaver, a Perry Mason. Ymddangosodd mewn un o brif rannau Empire (1962–63), cyfres NBC yn genre'r Gorllewin Gwyllt, cyn portreadu un o brif gymeriadau'r opera sebon Peyton Place (1964–69) ar ABC. Priododd O'Neal â'r actores Joanna Moore ym 1963, a chawsant un ferch (Tatum, ganed 1963) ac un mab (Griffin, ganed 1964) cyn iddynt ysgaru ym 1967.

Ffilm gyntaf O'Neal oedd The Big Bounce (1969), drama drosedd yn seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Elmore Leonard. Cyd-serennodd yn yr honno â Leigh Taylor-Young, ei ail wraig; buont yn briod o 1967 i 1974, a chawsant fab, Patrick, ym 1967. Ei ail lun oedd The Games (1970), ffilm chwaraeon a gyfarwyddwyd gan Michael Winner gyda Michael Crawford, Charles Aznavour, a Stanley Baker mewn rhannau eraill. Cafodd O'Neal ei argymell ar gyfer y brif ran wrywaidd yn Love Story (1970), cyferbyn yr actores Ali MacGraw, gan sgriptiwr y ffilm honno, Erich Segal, a ysgrifennodd hefyd The Games. Byddai Love Story yn un o ffilmiau mwyaf llwyddiannus y cyfnod, yn un o'r ffilmiau rhamantus enwocaf erioed, ac yn amlygu enw O'Neal ar draws yr Unol Daleithiau. Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau.

Ceisiodd ehangu amrediad ei gymeriadau gyda'i rôl gyferbyn William Holden yn Wild Rovers (1971), ffilm aflwyddiannus am ddau gowboi sy'n ysbeilio banc. Cyd-serennodd â Barbra Streisand yn What's Up, Doc? (1972), comedi gan Peter Bogdanovich sy'n talu teyrnged i ffilmiau screwball y 1930au a'r 1940au, a chyda Jacqueline Bisset yn y gomedi The Thief Who Came to Dinner (1973). Gweithiodd eto gyda Bogdanovich ar Paper Moon (1973), drama gomedi am ddichellwr a'i ferch yn teithio ar y ffordd yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Portreadir y ferch yn y ffilm gan ei ferch go iawn, Tatum, a enillai Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau. Ym 1975 serennodd yn Barry Lyndon, ffilm hanesyddol gan Stanley Kubrick a enillodd nifer o wobrau, ac a ystyrir bellach yn un o bortreadau gwychaf O'Neal. Fodd bynnag, wrth i'r 1970au fynd rhagddynt, fe'i cafodd yn anodd dod o hyd i waith, a daeth yn fwy adnabyddus yn y cyfryngau am ei fywyd personol. Wedi iddo cael ysgariad â Leigh Taylor-Young ym 1974, cafodd garwriaethau ag enwogion gan gynnwys Ursula Andress, Diana Ross, a Liza Minnelli. Cafodd ran gefnogol yn y ffilm ryfel A Bridge Too Far (1977), ac ymddangosodd mewn sawl ffilm aflwyddiannus, gan gynnwys dilyniant i Love Story o'r enw Oliver's Story (1978).

Ym 1979 cychwynnodd O'Neal ar garwriaeth â'r actores Farrah Fawcett, a oedd yn briod ar y pryd i Lee Majors. Cawsant berthynas hynod o dymhestlog a chyhoeddus, ac mae'n debyg i O'Neal gamdrin Fawcett ar adegau. Yn ôl ei blant, ac adroddiadau'r wasg, roedd O'Neal yn cymryd cyffuriau ac yn ymosod ar bobl yn fynych.[1][2] Cafodd O'Neal a Fawcett fab o'r enw Redmond ym 1985. Yn y 1980au, ymddangosodd O'Neal mewn ffilmiau disylw, fel arfer heb glod y beirniaid, gan gynnwys Irreconcilable Differences (1984) a Tough Guys Don't Dance (1987). Yn 1991, serennodd O'Neal a Fawcett mewn comedi sefyllfa ar CBS o'r enw Good Sports. Dirywiodd y berthynas rhwng O'Neal a Fawcett yn niwedd y 1990au, ond cawsant eu hailgymod yn 2001 a buont gyda'i gilydd hyd at farwolaeth Fawcett yn 2009. Cafodd O'Neal ei drin am liwcemia yn 2002 ac am ganser y prostad yn 2012.[1] Bu farw Ryan O'Neal yn yr ysbyty yn Santa Monica, Califfornia, yn 2023 yn 82 oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Ryan O’Neal, actor who starred in Love Story, Paper Moon, What’s Up, Doc? and Barry Lyndon – obituary", The Daily Telegraph (9 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Rhagfyr 2023.
  2. (Saesneg) Aljean Harmetz, "Ryan O’Neal, Who Became a Star With ‘Love Story,’ Dies at 82", The New York Times (8 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol ar 17 Rhagfyr 2023.
  3. (Saesneg) Valerie J. Nelson, "Ryan O’Neal, star of ‘Love Story’ and ‘Paper Moon,’ dies at 82", Los Angeles Times (8 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Rhagfyr 2023.