Rupert Murdoch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Murdoch yn 2010.

Dyn busnes rhyngwladol o Awstralia yw Rupert Keith Murdoch AC, KSG (ganwyd 11 Mawrth 1931).

Etifeddodd News Limited gan ei dad yn 1950 gan weithio am ychydig fel Prif Weithredwr y cwmni.[1] Ganwyd Murdoch ym Melbourne, daeth i fyw i Loegr yng nghanol y 1960au gan brynu'r papurau newydd News of the World, The Sun ac yn ddiweddarach The Times. Mae ei reolaeth dynn ar gwmni teledu BSkyB wedi golygu, yn ôl llawer, fod ganddo reolaeth (neu fonopoli hyd yn oed) ar y dewis o chwaraeon a newyddion a welir ar y teledu, yn arbennig gemau pêl-droed.

Yn y 2010au wynebodd gyhuddiadau fod rhai o'i gwmniau (gan gynnwys News of the World) wedi bod yn hacio ffonau pobl ac ar hyn o bryd (2013) mae heddluoedd gwledydd Prydain a'r UDA yn ymchwilio i'r cyhuddiadau hyn.[2] Rhoddodd Murdoch a'i fab James, a'i gyn-CEO Rebekah Brooks dystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson ac yna o flaen Pwyllgor Seneddol yn Llundain.[3]

Cyfeiriadau[golygu]


Baner AustraliaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.