Elisabeth Murdoch
Oddi ar Wicipedia
| Y Fonesig Elisabeth Murdoch | |
|---|---|
Y Fonesig Elisabeth Murdoch yn agor canolfan adsefydlu ar gyfer camddefnyddwyr cyffuriau ym Melbourne, Mai 2005. |
|
| Ganwyd | Elisabeth Joy Greene Melbourne, Victoria, Awstralia |
| Bu farw | 5 Rhagfyr 2012 (103 oed) Melbourne, Victoria, Awstralia |
| Cenedl | Awstraliad |
| Gwaith | Dyngarwraig |
| Priod | Keith Murdoch (priod 1928–1952, hyd ei farwolaeth) |
| Plant | Helen Handbury (bu farw) Rupert Murdoch Anne Kantor Janet Calvert-Jones |
| Rhieni | Rupert Greene Marie Grace De Lancey Forth |
Dyngarwraig Awstralaidd oedd y Fonesig Elisabeth Joy Murdoch AC DBE (née Greene; 8 Chwefror 1909 – 5 Rhagfyr 2012). Hi oedd gwraig y cyhoeddwr papurau newydd Syr Keith Murdoch a mam y dyn busnes Rupert Murdoch. Penodwyd yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) ym 1963 am ei gwaith dros elusennau.[1][2][3][4]
Roedd yn fatriarch y teulu Murdoch ac roedd ganddi 77 o ddisgynyddion uniongyrchol, gan gynnwys chwe gor-or-ŵyr.[5]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ (Saesneg) Obituaries: Dame Elisabeth Murdoch. The Daily Telegraph (5 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) King, Jennifer (6 Rhagfyr 2012). Dame Elisabeth Murdoch dead at 103. Australian Broadcasting Corporation. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Pannett, Rachel (16 Rhagfyr 2012). Dame Elisabeth Murdoch, Mother of News Corp. Chief, Dies at 103. The Wall Street Journal.
- ↑ (Saesneg) Leapman, Michael (7 Rhagfyr 2012). Dame Elisabeth Murdoch: Philanthropist and key figure in the rise of her son Rupert. The Independent. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Rupert Murdoch's mother, Elisabeth, dies at 103. BBC (5 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.