Rosa Luxemburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rosa Luxemburg
Rosa Luxemburg
Rosa Luxemburg

Roedd Rosa Luxemburg (5 Mawrth, 1870 neu 1871 – 15 Ionawr, 1919, Pwyleg: Róża Luksemburg) yn feddyliwr Marcsaidd a chwyldroadwraig Iddewig, yn enedigol o Wlad Pwyl.

Ganed hi yn Zamość ger Lublin, yn ferch i farsiandïwr coed. Cymerodd ran mewn mudiadau adain-chwith, a bu raid iddi ffoi i'r Swisdir yn 1889, lle astudiodd ym Mhrifysgol Zurich. Yn 1898, priododd Gustav Lübeck, a symudodd i Berlin. Bu'n flaenllaw mewn nifer o bleidiau ar y chwith yn yr Almaen, a sefydlodd gylchgrawn o'r enw Die Rote Fahne (Y Faner Goch). Gyda Karl Liebknecht, sefydlodd y Spartakusbund, grŵp a ddaeth yn Blaid Gomiwnyddol yr Almaen yn nes ymlaen. Ym mis Ionawr 1919 cymerodd ran mewn gwrthryfel aflwyddianus yn Berlin. Cymerwyd Luxembourg yn garcharor a'i dienyddio,

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill