Rhosmari
| Rhos Mair | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Lamiales |
| Teulu: | Lamiaceae |
| Genws: | Rosmarinus |
| Rhywogaeth: | R. officinalis |
| Enw deuenwol | |
| Rosmarinus officinalis L. |
|
Perlysieuyn blodeuol, lluosflwydd persawrus yw Rhos Mair neu Rhosmari (Lladin: Rosmarinus officinalis) sy'n cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd ac oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae'n perthyn i deulu'r mintys (Lamiaceae) ac mae ganddo ddail nodwyddog, bytholwyrdd.
Mae llawer math gwahanol i'w gael, rhai'n tyfu'n llorwedd ac eraill ar i fyny hyd at 1.5 metr o uchder. Mae'r dail rhwng 2 - 4 cm o hyd 2 - 5 mm o led a'u lliw'n wyrdd (uchod) a gwyn wyneb isaf a rheiny yn flewog. Yn y gaeaf neu'r gwanwyn mae'r blodau'n ymddangos a gall eu lliwiau nhw amrywio: gwyn, pinc, porffor neu las.
Cynnwys |
Rhinweddau meddygol [golygu]
Mae rhosmari'n cael ei ddefnyddio'n allanol fel shampŵ i wella'r lliw a'r cyflwr. Arferai'r Rhufeiniaid ei ddefnyddio a'i gyfri'n gysegredig oherwydd y rhinweddau hyn. Mae hefyd yn gwella gwynegon (cricmala), niwralgia, y bendro, nerfusrwydd fel gorguro'r galon a phoenau'r misglwyf.[1]
Mae ymchwil diweddar wedi dangos y gall gynorthwyo'r 'cof'. [2] Bu'n symbol o 'gof hir' ers canrifoedd ac mewn rhai rhannau o Ewrop caiff ei daflu ar yr arch i 'gofio' am y marw. Dywedd Ophelia hefyd yn Hamlet: There's rosemary, that's for remembrance.(Shakespeare: Hamlet, iv. 5.)
Llenyddiaeth [golygu]
Ceir sawl cyfeiriad ato mewn llenyddiaeth gan gynnwys yr hen benillion.
- Ar lan y môr mae carreg wastad,
- Lle bum yn siarad gair a’m cariad,
- O amgylch hon fe dyf y lili
- Ac ambell sbrigyn o rosmari.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Gwefan Saesneg 'Informa Healthcare'