Rhisiart Gwyn
Oddi ar Wicipedia
Bardd a reciwsant o Lanidloes, Powys oedd Rhisiart Gwyn, neu Richard Gwyn neu Richard White (1557 - 17 Hydref 1584).
Yn fab i deulu cefnog o ardal Maldwyn, cafodd ei addysg yng ngholegau Caergrawnt a Rhydychen a bu yn ysgolfeistr yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yr oedd yn Babydd a wrthodai gydnabod hawl Elisabeth I o Loegr i deyrnasu ac o ganlyniad cafodd ei erlyd.
Cyfansoddodd Rhisiart Gwyn gyfres o gerddi mesur rhydd (carolau) yn Gymraeg, sy'n ymosod yn llym ar Brotestaniaeth.
Yng Ngorffennaf 1580 carcharwyd ef ac mewn carchar y bu am weddill eu oes. Ar 9 Hydref 1584 dedfrydwyd ef i'w ddienyddio.
Canoneiddwyd ef gan y Pab Pawl VI ar y 25 Hydref 1970 fel un o Ddeugain Merthyr Lloegr a Chymru.
Llyfryddiaeth [golygu]
- T. H. Parry-Williams (gol.), Carolau Richard White (Caerdydd, 1930)