Rhif cymarebol
Oddi ar Wicipedia
Mewn mathemateg, mae rhif cymarebol yn rhif y gellir ei fynegi fel cwotient a/b dau gyfanrif, heb i'r enwadur fod yn hafal i sero. Gan fod yr enwadur yn medru bod yn hafal i 1, mae pob cyfanrif yn rhif cymarebol. Dynodir set yr holl rifau cymarebol gan Q wedi'i duo, neu gan y symbol
, sy'n sefyll dros cwotient (Saesneg: Quotient).
Y gwrthwyneb i rif cymarebol yw rhif anghymarebol. Mae'r rhifau hyn yn rhifau na ellir eu mynegi fel ffracsiwn, er enghraifft √2, π ac e. Nid yw'r rhifau ar ôl y pwynt degol yn y rhifau hyn yn dilyn patrwm, ac maent yn ddi-ben-draw.
Trwy rannu sero gyda chyfanrif, ceir sero, sy'n golygu fod sero yn rhif cymarebol.
Caiff rhif cymarebol ei enw gan mai cymhareb dau gyfanrif ydyw.
Gweler hefyd[golygu]