Radio rhyngrwyd

Oddi ar Wicipedia

Ffordd i dderbyn gorsaf radio sy'n darlledu dros y rhyngrwyd i’r cyfrifiadur yw Radio rhyngrwyd. Trwy ddefnyddio'r dechnoleg gywir gall unrhyw un ddarlledu gorsaf radio dros y rhyngrwyd. Un o brif fanteision y math hwn o dechnoleg yw nad ydyw'n dibynnu ar yr amledd prin a drud a defnyddir gan radio traddodiadol. Mae natur agored y rhyngrwyd yn galluogi'r gorsafoedd radio gyrraedd cynulleidfa ehangach ac mae'n gymharol rhad i'w wneud 'o gymharu a darlledu radio confensiynol.

Gwrando[golygu | golygu cod]

Er mwyn gwrando ar radio rhyngrwyd, mae angen cyfrifadur, cysylltiad rhyngrwyd a’r caledwedd a'r feddalwedd cywir – modem, cerdyn sain a chwaraewr cyfryngau. Bydd ansawdd y sain yn dibynnu ar gyflymder neu ystod y rhyngrwyd.

Darlledu[golygu | golygu cod]

Elfennau pwysicaf darlledu radio dros y rhyngrwyd yw’r amgodiadwr a’r gweinydd. Mae’r amgodiadwr yn amgodio’r neges glywedol o’r meicroffôn/mwyhäwr sain i neges ddigidol er mwyn ei drawsyrru. Mae’r gweinydd yn derbyn y neges ac yn ei drawsyrru ar y rhyngrwyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.