Prifysgol Mondragon

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Mondragon
Sefydlwyd 1997
Math Prifysgol Cydweithiol
Is-ganghellor Jon Altuna
Rheithor Vicente Atxa
Pennaeth Iñigo Ucin
Staff 518 (2015)
Israddedigion 4,441 (2015)
Ôlraddedigion 758 (2015)
Lleoliad Arrasate (Mondragón), Gipuzkoa, Gwlad y Basg
Campws Arrasate, Oñati, Goierri, Hernani, Donostia, Bidasoa, Eskoriatza, Aretxabaleta, Bilbao
Cyn-enwau Escuela Politécnica Superior
(1943-1997)
Gwefan https://www.mondragon.edu/en

Mae Mondragon Unibertsitatea yn brifysgol a leolir yn bennaf yn Arrasate (Mondragón) yn Gipuzkoa, Gwlad y Basg. Hi yw'r unig brifysgol gydweithredol y byd; hynny yw, sefydliad ble mae'r holl weithwyr hefyd yn berchnogion ac felly'n cael pleidleisio ar sut mae ei reoli.

Sefydlwyd y Brifysgol fel coleg technegol a datblygodd i fod yn brifysgol yn ateb anghenion hyfforddi, R&D ac ymchwil y nifer fawr o gwmnïau cydweithredol yr ardal.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yn wreiddiol fel yr Escuela Politécnica Superior ym 1943 gan offeiriad y dref Arrasate/Mondragon José María Arizmendiarrieta yn goleg technegol i hyfforddodd beiriannwyr ifanc.[2]

Roedd Arrasate/Mondragon yn dref o 7,000 o bobl ar yr adeg honno ac yn dal i ddioddef effeithiau Rhyfel Cartref Sbaen gyda thlodi enbyd. Bu'n rhaid i lawer o bobl Gwlad y Basg ffoi er mwy osgoi gormes Llywodraeth Sbaen.

Y dilyn llwyddiant sefydlu'r Escuela Politécnica Superior aeth José María Arizmendiarrieta ati i sefydlu nifer o fentrau cydweithredol yn y dref a bu'n llwyddiant mawr dros y degawdau dilynol. Yn 1956 sefydliwyd y fenter gydweithredol gyntaf gyda phobl leol oedd wedi bod yn y coleg technegol yn cynhyrchu tanau paraffin.

Ebyn heddiw mae Mentrau Cydweithedol Mondragon wedi tyfu i fod yn un o'r gorfforaethau mwyaf yn economi Sbaen yn cynnwys Laboral Kutxa (banc), Eroski (cadwyn o archfarchnadoedd), Fagor (cynnych peirianyddol) a Mondragon Unibertsitatea (prifysgol),[3]

Enillwyd statws prifysgol Mondragon Unibertsitatea ym 1997. Mae'r Brifysgol yn hunan cynhaliol yn hytrach na chael ei ariannu gan lywodraeth neu awdurdodau cyhoeddus, Yn swyddogol ystyrir yn sefydliad 'preifat'.

Mae 15% o elwau cwmnïau cydweithredol grŵp Mondragon yn mynd i'r Brifysgol a phrosiectau hyfforddiant eraill (y % mwyaf oddi wrth y banc cydweithredol Laboral Kuxta).[4][5]

Adeilad newydd Prifysgol Mondragon ar y chwith gyda thref Arrasate i'r dde

Gwerthoedd[golygu | golygu cod]

Mae'r Brifysgol yn datgan ei bod yn ddielw, galwedigaethol, er budd cymunedol ac yn ateb anghenion busnesau a sefydliadau eraill. Mae'r staff a myfyrwyr yn dysgu gwerthoedd a sut i gymryd rhan a chydweithio gan ganolbwyntio ar Beirianneg, Rheolaeth Busnes, Entrenureship, Addysg, Cyfathrebu Cyfryngau, Mentrau Cydweithredol. Yn ddiweddar, agorwyd Canolfan Gwyddorau Gastronomeg gan fanteisio ar enwogrwydd y Basgwyr am fwyd a choginio da.

Nid oes gan y darlithwyr deitlau fel 'Yr Athro', neu 'Gadair' yn gwahanu eu statws fel mewn prifysgolion eraill.

Mae dewis meysydd ar gyfer ymchwil yn cael eu penderfynu'n dorfol ar sail budd cyffredinol yn hytrach na dewis yr unigolion sydd yn gwneud yr ymchwil. Yn gyffredinol mae budd y gymuned yn cael ei rhoi o flaen dymuniad unigol.

Mae pwyslais mawr ar hyfforddiant ymarferol a chysylltiadau gyda diwydiannau'n hytrach na chelfyddydau a’r dyniaethau pur.[6]

Model tair iaith[golygu | golygu cod]

Mae myfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau trwy dair iaith fel rhan o'r model Mendeberri:[4]

Mae prifysgolion eraill Gwlad y Basg ond yn cynnig opsiwn Euskara neu Sbaeneg.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Yn 2015 roedd gan y Brifysgol y canolynol:[7]

  • Cyllideb o €55,000,000
  • 518 o staff (140 o weinyddwyr a gweithwyr cynnal, 378 o ddarlithwyr ac ymchwilwyr)
  • 4,441 o fyfyrwyr is-radd a 758 Master a PhD
  • 2,037 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn internships ymarferol a phrosiectau tebyg
  • 200 o ymchwilwyr yn gweithio mewn cwmnïau
  • 220 o gwmnïau partner
  • 5600 mewn hyffroddiant parhaol a dysgu galwedigaethol proffesiynol
  • 9 Safle campws trwy Wlad y Basg a chydweithio mewn prosiectau eraill dros y byd ee De America (217 o gytundebau gyda phrifysgolion eraill)

Gall myfyrwyr fod yn rhan o ‘Alecop’ sef menter gydweithredol y myfyrwyr sy'n rhoi siawns iddynt ennill arian i dalu am eu hastudiaethau.

Lleoliad Gwlad y Basg
Taleithiau Gwlad y Basg

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-21. Cyrchwyd 2015-05-22.
  2. Molina, Fernando (2005). José María Arizmendiarreta. Caja Laboral. ISBN 84-920246-2-3.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-10. Cyrchwyd 2015-05-22.
  4. 4.0 4.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-28. Cyrchwyd 2015-05-22.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-22. Cyrchwyd 2015-05-22.
  6. http://www.timeshighereducation.co.uk/features/inside-a-cooperative-university/2006776.fullarticle
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-13. Cyrchwyd 2015-05-22.