Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
Arweinydd llywodraeth ddatganoledig neu weithrediaeth Gogledd Iwerddon yw Prif Weinidog Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Céad-Aire, Saesneg: First Minister, Sgoteg Ulster: Heid Männystèr). Mae'r llywodraeth ei hun yn cael ei ffurfio gan y brif blaid/prif bleidiau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac mae'n rhaid i'r brif weinidog fod yn aelod o'r Cynulliad hwnnw.
Sefydlwyd y swydd yn 2001 pan ddaeth David Trimble yn brif weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon. Bu'r swydd heb ddeiliad o 2002 hyd fis Mai 2007 oherwydd anghydfod gwleidyddol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Ar yr 8fed o Fai 2007 apwyntiwyd y Parch. Ian Paisley yn Brif Weinidog. Ers 5 Mehefin 2008, Peter Robinson yw'r Brif Weinidog gyda Martin McGuinness yn Ddirprwy Brif Weinidog mewn cynllun rhannu grym rhwng yr Unoliaethwyr a'r Gweriniaethwyr.
Prif Weinidogion [golygu]
| Gweinidog | Plaid | Dechrau'r swydd | Gadael y swydd | |
|---|---|---|---|---|
| David Trimble | Plaid Unoliaethol Ulster | 2 Rhagfyr 1999 | 11 Chwefror 2000 | |
| Gohirwyd y swydd | ||||
| David Trimble | Plaid Unoliaethol Ulster | 30 Mai 2000 | 30 Mehefin 2001 | |
| Syr Reg Empey (Dros dro) | Plaid Unoliaethol Ulster | 1 Gorffennaf 2001 | 6 Tachwedd 2001 | |
| David Trimble | Plaid Unoliaethol Ulster | 6 Tachwedd 2001 | 14 Hydref 2002 | |
| Gohirwyd y swydd | ||||
| Ian Paisley | Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd | 8 Mai 2007 | 5 Mehefin 2008 | |
| Peter Robinson | Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd | 5 Mehefin 2008 | ||