Pont Sir y Fflint
Oddi ar Wicipedia
Pont dros Afon Dyfrdwy yw Pont Sir y Fflint (Saesneg: Flintshire Bridge) a agorwyd yn 1997. Mae'n dwyn ffordd osgoi'r A548 rhwng Cei Connah a Shotton yn nwyrain Sir y Fflint. Costiodd £55 miliwn.
Pont cêblau crog asymetrig (assymetric cable stayed bridge) ydyw, a chredir mai dyma'r un fwyaf yng ngwledydd Prydain. Bwriad y noddwyr, Cyngor Sir y Fflint, oedd adfywio Parc Busnes Glannau Dyfrdwy a lleihau'r tagfeydd traffig o gwmpas Shotton a Chei Connah.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Astudiaeth ar wefan Lusas.com