Pervez Musharraf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Cadfridog Pervez Musharraf

Pervez Musharraf (Urdu: پرويز مشرف) (ganed 11 Awst, 1943) yw cyn-arlywydd Pakistan, a chyn Pennaeth Staff Byddin Pakistan. Daeth i rym yn 1999 trwy drefnu a gweithredu coup d'état milwrol ac mae wedi rhoi heibio cyfansoddiad Pakistan ddwywaith; ers hynny, mae wedi cael ei gefnogi'n ymarferol (trwy gymorth milwrol ac ariannol) gan wledydd y Gorllewin gan gynnwys yr Unol Daleithiau. Cipiodd Musharraf rym ar 12 Hydref, 1999, gan droi allan Nawaz Sharif, Prif Weinidog etholedig y wlad, cafodd wared ar y cyrff deddfwriaethol cenedlaethol a thaleithiol, cymerodd iddo'i hun y teitl o Brif Weithredwr a daeth felly'n arweinydd de facto llywodraeth Pakistan, y pedwerydd pennaeth milwrol yn hanes y wlad i wneud hynny. Yn ddiweddarach, yn 2001, apwyntiodd Musharraf ei hun i swydd Arlywydd Pakistan.

Ar 3 Tachwedd, 2007, ddyddiau yn unig cyn i Brif Lys Pacistan benderfynu ei barn ar ddeiseb a heriodd ddilysrwydd cyfansoddiadol ei ail-ethol yn arlywydd yn etholaethau dadleuol Hydref 2007, rhoddodd Musharraf heibio'r cyfansoddiad eto, arestiodd sawl barnwr a chyfreithiwr o'r Prif Lys, yn cynnwys y Prif Farnwr Iftikhar Muhammad Chaudhry, gorchmynodd arestio gwrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr dros hawliau dynol, a chaeodd bob sianel teledu preifat. Cyhoeddodd stâd o argyfwng yn y wlad. Ymddiswyddodd Musharraf fel arlywydd ar 18 Awst 2008.

Flag of Pakistan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bakistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill