Penrhyn York

Oddi ar Wicipedia
Penrhyn York
Mathpentir, penrhyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Uwch y môr1 metr Edit this on Wikidata
GerllawCulfor Torres Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10.6872°S 142.5314°E Edit this on Wikidata
Map

Pwynt mwyaf gogleddol tir mawr Awstralia yw Penrhyn York.[1] Saif yn nhalaith Queensland. Cafodd ei enwi gan James Cook ar ei fordaith archwilio gyntaf ar hyd arfordir dwyreiniol Awstralia ym 1770. Fe’i henwodd ar 21 Awst 1770 er anrhydedd i’r Tywysog Edward, Dug Efrog ac Albany (Duke of York and Albany).

Mae Penrhyn York wedi rhoi ei enw i Orynys Penrhyn York, sef y penrhyn llawer mwy sy'n gorwedd rhwng Gwlff Carpentaria a'r Môr Cwrel.

Arwydd ger Penrhyn York: "Rydych chi'n sefyll ar bwynt mwyaf gogleddol cyfandir Awstralia."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)