Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur

Oddi ar Wicipedia

Testun Cymraeg Canol yw Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur, sy'n cynnwys wyth set o drioedd sy'n rhestru marchogion llys Arthur gyda phwt o wybodaeth amdanynt. Mae'n destun sy'n dyddio o ddiwedd y 15g yn ei ffurf bresennol, yn ôl Rachel Bromwich, ac sy'n gymysgfa o draddodiadau Cymreig dilys, deunydd o waith Sieffre o Fynwy, a chymeriadau 'Arthuraidd' o lenyddiaeth cyfandir Ewrop nad ydynt yn perthyn i draddodiad Cymru.[1]

Mae'r testun ar gael mewn sawl llawysgrif o'r 15g ymlaen. Credir fod y testunau diweddarach, o'r 16g ymlaen, i gyd yn deillio o destun mewn llawysgrif o waith y bardd Gutun Owain, sydd i'w dyddio i tua 1455.[2] Mae rhai o'r trioedd yn seiliedig ar y testun canoloesol diweddar Y Seint Greal, o darddiad cyfandirol, ac yn dwyn i mewn i'r cylch Arthuraidd Cymreig traddodiadol gymeridau o lenyddiaeth Arthuraidd y cyfandir a Lloegr, fel Lanslod Lac.

Y marchogion[golygu | golygu cod]

Testun[golygu | golygu cod]

  • Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur: y testun Cymraeg wedi ei olygu gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), Atodiad IV.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ceridwen Lloyd-Morgan, 'Breuddwyd Rhonabwy and Later Arthurian Literature', The Arthur of the Welsh (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), tud. 201.
  2. 'Breuddwyd Rhonabwy and Later Arthurian Literature', tud. 202.
Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato