Hywel fab Emyr Llydaw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hywel fab Emyr Llydaw oedd un o gydymdeithion pennaf Arthur yn ôl traddodiadau cynnar Cymru. Roedd yn fab i Emyr Llydaw, brenin Llydaw.

Hywel/Hoel[golygu]

Hywel[golygu]

Yn ôl Sieffre o Fynwy yn yr Historia Regum Britanniae roedd Hywel yn gyfaill i Arthur gydol ei oes. Mae'r testun anghyflawn diweddarach Genedigaeth Arthur yn gwneud Gwyar, chwaer Arthur a mam Gwalchmai ap Gwyar, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel, ond ni cheir sôn am hynny yn y ffynonellau cynnar, dim ond cyfeirio ato fel nai fab chwaer Arthur (Brut Dingestow).

Ceir cyfeiriadau at Hywel yn llyfr Sieffre (Hoel yn y Lladin wreiddiol, 'Hywel' yn y fersiynau Cymraeg), yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy, yn y rhamantau Geraint fab Erbin a Peredur, ac mewn sawl cerdd o waith y Gogynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr.

Hoel[golygu]

Dan ei enw Lladin 'Hoel' cafodd Hywel fab Emyr Llydaw ei gysylltu â'r ferisynau diweddarach o chwedl Trystan ac Esyllt gan feirdd Ffrengig ac Eingl-Normanaidd fel Béroul a Thomas o Brydain. Yn eu gwaith portreadir Hywel/Hoel fel Dug Llydaw a thad Esyllt (Iseult), gwraig Trystan (Tristan neu Tristram). Mae Hoel yn lletya Trystan ar ôl iddo gael ei alltudo o deyrnas y brenin Mark (March ap Meirchion), ac yn ddiweddarach mae Trystan yn ei gynorthwyo ac yn syrthio mewn cariad ag ail Esyllt, merch Hoel, ac yn ei phriodi. Mewn fersiwn arall mae'n dychwelyd i Brydain i fyw â'i wraig gyntaf (ceir dau enw ar Esyllt yn y traddodiad Cymraeg, sydd efallai'n esbonio'r dryswch hyn); dyma'r fersiwn a ddilynir gan Syr Thomas Malory yn ei Le Morte d'Arthur.

Plant[golygu]

Cysylltir sawl sant a santes â Hywel yn yr achau. Dywedir fod y seintiau canlynol yn blant iddo:

Ffynonellau[golygu]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991). Tud. 407-8.
  • Sir Paul Harvey a J. E. Heseltine, The Oxford Companion to French Literature (Rhydychen, arg. new. 1969). d.g. 'Tristan and Isolde'.