Owen Thomas (cadfridog)

Oddi ar Wicipedia
Owen Thomas
Ganwyd18 Rhagfyr 1858 Edit this on Wikidata
Carrog Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1923 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, milwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Cadfridog, amaethwr ac Aelod Seneddol Cymreig oedd Syr Owen Thomas (18 Rhagfyr 1858 - 6 Mawrth 1923).[1]

Ganed ef yng Ngharrog, Llanbadrig, Ynys Môn. Wedi ei addysgu yn Lerpwl, bu'n oruchwyliwr ar stadau Plas Coch a'r Brynddu, yna yn aelod o Gomisiwn brenhinol ar y dirwasgiad amaethyddol. Yn 1899, roedd ar ymweliad a De Affrica pan ddechreuodd Rhyfel y Boer, a gwnaed ef yn Gyrnol. Dywedir iddo ymladd mewn dros gant o frwydrau yn y rhyfel.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, gwnaed ef yn Frigadydd-Gadfridog yn gyfrifol am godi a hyfforddi milwyr yng Ngogledd Cymru. Gwnaed ef yn farchog yn 1917. Collodd dri mab yn y rhyfel hwn.

Ar ddiwedd y rhyfel, rhoddodd ei enw ymlaen fel ymgeisydd Llafur dros Ynys Môn, ac enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1918, gan guro'r Aelod blaenorol, E. J. Ellis-Griffith. Yn 1922, safodd fel ymgeisydd annibynnol yn erbyn y Rhyddfrydwr, ac enillodd eto. Claddwyd ef yn Llanfechell.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • David A. Pretty, Rhyfelwr Môn: Y Brigadydd-Gadfridog Syr Owen Thomas, A.S. . , 1858-1923 (Dinbych: Gwasg Gee, 1989)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ellis Jones Ellis-Griffith
Aelod Seneddol Ynys Môn
19181923
Olynydd:
Syr Robert John Thomas