Ohad Knoller

Oddi ar Wicipedia
Ohad Knoller
Ganwyd28 Medi 1976 Edit this on Wikidata
Israel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Thelma Yellin High School of the Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, prif weithredwr Edit this on Wikidata
PriodNoa Knoller Edit this on Wikidata

Mae Ohad Knoller (Hebraeg:אוהד קנולר; ganed 28 Medi 1976) actor Iddewig o Israel.

Mae'n fab i newyddiadurwraig, Judith Knoller ac hyd nes 2011 roedd yn briod gyda'r actores, Noa Raban, ac yn dad i'w phlentyn.[1]

Mynychodd Ysgol Uwchradd Celf Berfformio Thelma Yellin yn Tel Aviv gan ymddangos yn ei ran gyntaf ar y teledu yn 1990 pan oedd yn 14 oed. Yn ogystal â gwaith teledu a ffilm, mae Knoller hefyd yn perfformio'n fynych mewn theatrau Israelaidd ac wedi ymddangos mewn ffilmiau a chyfresi Saesneg ei hiaith, megis McMafia a Munich. Mae Knoller fwyaf adnabyddus am ei rannau yn ffilmiau Eytan Fox, Yossi & Jagger (sydd am berthynas hoyw yn Llu Amddiffyn Israel) a The Bubble. Bu hefyd yn actio yn ffilm Steven Spielberg, Munich am gyrch dirgel gwasanaeth cudd Israel i lofruddio'r bobl oedd yn gyfrifol am gyflafan yng Gemau Olymapidd 1972 yn y ddinas honno.[2]

Bydd gwylwyr yng Nghymru hefyd yn gyfarwydd gyda'i wyneb yn dilyn ei ymddangosiad ar gyfres ddrama McMafia ar BBC a'r gyfres am Iddewon Uniongred yn eu 20au hwyr yn chwilio am gariad, Srugim sydd ar ffrwd ffilmiau, Amazon Prime.

Ffilmograffi[golygu | golygu cod]

Ohad Knoller ac Efrat Ben Yaacov yn y ffilm, Anachnu Lo Levad
  • 2018: Operation Finale
  • 2017: McMafia
  • 2012: Urban Tale
  • 2012: Yossi
  • 2011: Barefoot (TV miniseries)|Barefoot (cyfres deledu fer)
  • 2011: Anachnu Lo Levad
  • 2010: Who do you think you are? (cyfres deledu fer)
  • 2008: Halakeh
  • 2008: Ha'yom Shel Adam
  • 2008: Srugim
  • 2008: Til the Wedding (cyfres deledu)
  • 2007: Redacted - ffilm
  • 2007: Beaufort
  • 2006: The Bubble
  • 2005: Munich - ffilm
  • 2005: Bruno's in Love (ffilm deledu)
  • 2004: Love Hurts - cyfres deledu
  • 2004: Delusions - ffilm
  • 2004: Year Zero[3]
  • 2003: Knafayim (cyfres deledu fer)
  • 2002: Yossi & Jagger
  • 1995: Under the Domim Tree

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Yn 2003, enillodd Knoller Wobr Tribeca am yr actor gwrywaidd orau am ei ran yn y ffilm, Yossi & Jagger.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. המאמי החדש (yn Hebrew). Ynet.co.il. 1995-06-20. Cyrchwyd 2011-10-09.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Ohad Knoller ar IMDb
  3. (Saesneg) Year Zero ar wefan Internet Movie Database