Newyn Mawr Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bridget O'Donnel a'i phlant yn ystod y newyn, 1849

Effeithiodd Newyn Mawr Iwerddon (Gwyddeleg: An Gorta Mór, hefyd An Drochshaol) ar boblogaeth Iwerddon rhwng 1845 a 1849. Achos uniongyrchol y newyn oedd meicro-organeb llwydni o'r enw Phytophthora infestans, oedd yn ymosod ar datws ac yn peri iddynt bydru. Effeithiodd P. infestans ar datws trwy ran helaeth o Ewrop, gan achosi prinder bwyd mewn nifer o fannau, ond roedd amgylchiadau arbennig yn Iwerddon a droes y newyn yn drychineb genedlaethol. Credir i oddeutu miliwn o bobl farw o newyn neu o glefydau a achoswyd gan newyn, a gorfodwyd nifer fawr o bobl yr ynys i ymfudo. Amcangyfrifir i boblogaeth Iwerddon ostwng o tua 20% hyd 25% rhwng 1845 a 1852 o ganlyniad.

O tua 1800, roedd tlodion Iwerddon wedi dibynnu bron yn llwyr ar datws am eu bwyd. Yn 1845, methodd y cynhaeaf tatws oherwydd y clwyf tatws. Yn 1846, methodd y cynhaeaf eto. Nid oedd y clwyf tatws yn broblem yn 1847 oherwydd tywydd anarferol o sych, ond oherwydd y sychder, bychan oedd y cynhaeaf, a gwnaed y sefyllfa'n waeth wrth i glefyd teiffws ymledu. Yn 1848 dychwelodd y clwyf tatws, ac ym mis Rhagfyr ymledodd colera trwy boblogaeth oedd eisoes wedi ei gwanhau yn fawr. 1849 oedd y flwyddyn waethaf, gyda'r cynhaeaf yn methu eto. Dim ond yn 1850 y cafwyd cynhaeaf tatws boddhaol, er fod y clwyf yn parhau'n broblem mewn rhai ardaloedd.

Er 1801, pan basiwyd y Ddeddf Uno, roedd Iwerddon yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn cael ei rheoli o'r senedd yn Llundain. Yn hydref 1845, prynodd llywodraeth Dorïaidd Syr Robert Peel werth £100,000 o Indrawn o'r Unol Daleithiau, a gyrhaeddodd Iwerddon yn Chwefror 1846, ond nid oeddynt yn dymuno gwneud gormod rhag amharu ar weithgareddau preifat. Diddymwyd y Ddeddf Yd, ond ni chafodd hyn lawer o effaith. Ym Mehefin 1846, syrthiodd y llywodraeth, a daeth llywodraeth Chwigaidd dan yr Arglwydd John Russell i rym. Dechreuodd y llywodraeth yma raglen o weithiau cyhoeddus, yna rhoddodd y gorau i'r rhain a dechreuodd system o gymorth uniongyrchol. Ni chai neb gymorth oni bai ei fod yn gyntaf yn ildio'r holl dir a feddai, a rhwng hyn a't ffaith fod tenantiaid yn methu talu rhenti, gyrrwyd miloedd lawer oddi ar y tir, 90,000 yn 1849, a 104,000 yn 1850. Roedd bwyd yn cael ei allforio o Iwerddon i Loegr trwy gydol y newyn.

Yn 1845, ar ddechrau'r newyn, amcangyfrifir fod poblogaeth Iwerddon yn 8 miliwn. Gostyngodd y boblogaeth i'r hanner o ganlyniad i'r newyn a'r effeithiau a ddaeth yn ei sgîl, a hyd yn oed yn 1911 dim ond 4.4 miliwn oedd poblogaeth yr ynys.

Cafodd y newyn effaith fawr ar y farn gyhoeddus yn Iwerddon, gan arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i fudiadau cenedlaethol. Arweiniodd hefyd at greu cymunedau Gwyddelig mewn gwledydd eraill oedd yn casau llywodraeth Prydain oherwydd yr hyn a welid fel ei difaterwch yn wyneb dioddefaint y Gwyddelod, neu hyd yn oed, ym marn rhai, yn ymgais fwriadol i ddifa'r Gwyddelod.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Cecil Woodham-Smith The Great Hunger, 1845-49 (Penguin, 1991)