Neuadd John Morris-Jones
Math | neuadd breswyl |
---|---|
Enwyd ar ôl | John Morris-Jones |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Bangor |
Sir | Bangor |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.226535°N 4.140453°W |
Neuadd breswyl Gymraeg Prifysgol Bangor yw Neuadd John Morris-Jones (JMJ). Enwyd yr adeilad ar ôl y bardd enwog o Ynys Môn, John Morris-Jones (1864–1929). Mae'r neuadd wedi'i rannu i ddau adeilad, sef Bryn Dinas a Tegfan, ac mae Ystafell Gyffredin yn rhannu'r neuaddau lle cynhelir llawer o ddigwyddiadau UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor). Mae'r digwyddiadau'n amrywio o Gyfarfodydd Cyffredinol, Ymarferion Côr Aelwyd JMJ a sawl digwyddiad cymdeithasol a gynhelir gan Y Cymric, corff cymdeithasol UMCB.
Mae lleoliad y Neuadd wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd, ond erbyn hyn mae safle'r neuadd ym Mhentref Ffriddoedd, Bangor Uchaf.
Llywydd JMJ[golygu | golygu cod]
Un o'r safleoedd ar Bwyllgor gwaith UMCB yw Llywydd JMJ, sy'n gyfrifol am gynrychioli'r preswylwyr ac am drefnu gweithgareddau cymdeithasol sy'n digwydd yn y neuadd.
Dyma restr o rhai o'r unigolion sydd wedi cymryd y safle dros y blynyddoedd diwethaf:
- Rhodri Williams (2014–15)
- Huw Harvey (2015–16)
- Gethin Morgan (2016–17)
- Lleucu Myrddin (2017–18)
- Iwan Evans (2018–19)
- Mabon Dafydd (2019–20)
- Cadi Evans (2020–21)
- Catrin Jones (2021-22)
- Beca Evans (2022-23)
- Gwen Down (2023-24)