Neil Siegel
Neil Siegel | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1954 Brooklyn |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwyddonydd cyfrifiadurol, systems engineer |
Cyflogwr | |
Mam | Judith Love Cohen |
Gwobr/au | Cymrodor IEEE, IEEE Simon Ramo Medal |
Mae Neil Gilbert Siegel (ganwyd 19 Chwefror 1954) yn wyddonydd cyfrifiadurol Americanaidd, peiriannydd systemau, a pheiriannydd, sy'n adnabyddus am ei ddatblygiad o lawer o systemau allweddol ar gyfer byddin Unol Daleithiau America, gan gynnwys system Olrhain Blue-Force, system cerbyd-aer heb berson cyntaf byddin yr UDA, a system Amddiffyn Awyr Ardal Flaen Byddin yr UD.[1] Mae sawl un o'i ddyfeisiadau yn cael eu defnyddio mewn gwrthrychau cyffredin hefyd, megis dyfeisiau llaw (e.e., dyfeisiau GPS symudol, ffonau smart, ac yn y blaen) sydd â mapiau digidol yn cyfeirio yn awtomatig i alinio â phwyntiau cardinal y byd go iawn.
Bywyd cynnar a'i waith[golygu | golygu cod]
Ganwyd Siegl yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i Bernard Siegl a Judith Love Cohen, ac mae wedi byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn ne-orllewin Los Angeles. Iddewon oedd ei rieni.[2] Mae ganddo ddau frawd a chwaer lawn, Howard a Rachel, yn ogystal â hanner-brawd, yr actor Jack Black. Fe fynychodd Brifysgol De Califfornia, gan ennill sawl gradd mewn mathemateg. Yn ystod ac yn hwyrach ar ôl y cyfnod hwn, gweithiodd fel cerddor proffesiynol, yn bennaf yn perfformio cerddoriaeth glasurol a gwerin o’r Balcanau a’r Dwyrain-Cannol. Enillodd ddoethuriaeth mewn peirianneg systemau (hefyd o USC); ei ymgynghorydd oedd y cyfrifiadurwr nodedig Barry Boehm.
Yn 1976, dechreuodd weithio i gwmni oedd yn cael ei adnabod fel TRW (a brynwyd gan Northrop Grumman yn 2002).
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Yn 1993, arweinodd fudiad yn TRW gan ddatblygu systemau awtomaidd unigryw ar gyfer byddin yr UDA ac (i raddau llai) cwmnïau masnachol. Llwyddodd yn eithriadol o dda mewn masnach<angen ffynhonnell>, gan dyfu'n gyflym. Creodd y cwmni lawer o gynnyrch newydd awtomeiddio cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth neu bryderus. Yn ogystal â'r fyddin ac Awyrlu'r Unol Daleithiau, roedd cwsmeriaid ar y pryd hefyd yn cynnwys meysydd dur yr UDA a'r maes ffilm.
Ym 1993, sefydlodd ei dîm system gorchymyn a rheoli cwbl awtomataidd gyntaf Byddin yr UD, y System C2 Amddiffyn Awyr Ardal Ymlaen. Mae'r system hon yn dal i gael ei defnyddio hyd at heddiw.
Yn 1995, fe enillodd ei dîm y contract i ddatblygu system "maes brwydr ddigidol" cyntaf byddin yr UD, o'r enw'r Force-XXI Battle Command Brigade and Below (yn cael ei adnabod yn gyffredinol o dan yr acronym FBCB2). Mae hyn wedi galluogi medr adnabyddus i'r UD, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y Corfflu Môr-filwyr, yn ogystal â'r fyddin.
Hefyd yn 1995, dosbarthodd ei dim safle rheoli awtomaidd cyntaf y fyddin, sy'n wedi ei ddilyn gan gyfres hir o galluon perthnasol hyd at heddiw
Yn 1997, rhoddir y cyfrifoldeb o "drwsio" y rhaglen Hunter UAV, cerbyd aer di-griw cyntaf y fyddin. Dioddefodd y rhaglen cyfres o ddamweiniau yn ystod profi a chafodd ei "ohurio". Yn ystod ei daliadaeth, doddth y rhaglen yn un o gerbydau aer di-griw mwyaf dibynadwy'r UD. Gorffennodd y Hunter ei swydd yn 1999 yn y Balcanau.
Mae ei gyfraniadau personol mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn canolbwyntio ar dechnegau ar gyfer llwybro lled band hynod o isel o fewn y rhwydwaith [3] a chyflawni deinameg derbyniol trwy'r hyn y mae'n ei alw'n rhwydweithiau "force-structure-aware". [4] Mae o wedi bod yn arloeswr mewn defnyddio cymwysiadau GPS ar raddfa fawr [5] [6] (fel system Olrhain Blue-Force ). Mae o hefyd wedi cyfrannu at y maes o strwythuro datblygiadau meddalwedd ar raddfa fawr er mwyn cyfateb i'r dosbarthiad sgiliau a geir mewn timau byd go iawn.
Ers canol 2001, mae o wedi dod yn brif swyddog o dechnoleg systemau TRW (eisoes Northrop Grumman Mission Systems). Mae ei waith yn ystod yr amser yma yn waith estynedig ar ei waith blaenorol mewn rhwydweithi byddinol, rhwydwiethi "force-structure-aware" a systemau methodoleg peirianneg ar raddfa eang. Ymddeolodd ar ddiwedd 2015.
Ers 2016, ddoth Siegel yn athro o oruchwyliaeth IBM yn y USC . [7] Mae hefyd yn Athro Cynorthwyol mewn Peirianneg yn UCLA . [8] yn ogystal â hyn, mae Siegel hefyd yn dysgu dosbarthiadau peirianneg israddedig.
Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Mae Siegel wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau, yn gynnwys:
- Etholiad i Academi Beirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau yn 2005. [9]
- Dewis yn Gymrawd IEEE (2011). [10]
- Medal Simon Ramo IEEE (2011), ar gyfer peirianneg systemau a gwyddor systemau. [11]
- Aelod (2017) a Chymrawd (2019), Academi Genedlaethol y Dyfeiswyr . [12]
- Urdd Anrhydeddus Sant Barbara Byddin yr UD, 1996. [12]
- Gwobr iCMG ar gyfer pensaernïaeth system [13]
- Cyngor Technoleg Gogledd Virginia - gwobr CTO y flwyddyn [14]
Electronegyddion traul[golygu | golygu cod]
Mae Siegel wedi cael effaith mawr ar y ddyluniaeth a gallied o lawer o fathau gwahanol o electronegyddion traul (consumer goods) symudol, yn cynnwys ffonau symudol, GPS, ac yn y blaen. Mae o wedi ei gofrestru fel y creuwr cyntaf o lawer o dechnolegau pwysig sydd yn cael eu defnyddio hyd at heddiw gan gynnwys:
- Dyfeisiau symudol wedi'u galluogi gan GPS [15]
- Cyfeiriadedd awtomatig arddangosiad map i gyd-fynd â'r pwyntiau cardinal daearyddol [16]
- Optimeiddio protocolau unicast (gan gynnwys TCP) i'w defnyddio ar rwydweithiau diwifr lled band isel [17]
- Cyflawni llawer o dasgau gweinyddol a rheoli diogelwch o bell [18]
- Rheoli a gweinyddu rhwydwaith mawr o ddyfeisiau diwifr [19]
- Cynyddu bywyd batri ar ddyfeisiau sy'n galluogi GPS [20]
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Mae Siegel yn gerddor talentog sydd yn chware'r ffliwt, târ, [21] ney, [22] a'r kaval [23] mae o eisoes wedi perfformio mewn dros 1,500 o gyngherddau yn fyd-eang. Astudiodd gerddoriaeth gyda meistr Sufi o Iran, Morteza Varzi, am dros 20 mlynedd. Mae o'n aelod o Cerddorion Proffesiynol Local 47, Ffederasiwn Cerddorion America, AFL-CIO. [24]
Mae o'n ŵr i Robyn Friend sydd yn ysgrifenyddes, dawnsiwr a chantores. Maent wedi perfformio gyda'i gilydd ledled y byd yn ystod y 30 mlynedd diweddarach.
Mae o'n cymryd rôl arweiniol mewn sawl mudiad nid-er-elw, yn cynnwys y Providence Trinity Health Care Hospice Foundation, yr Electric Infrastructure Security Council, ac yr Institute of Persian Performing Arts. Ers 2013, mae o a'i wraig wedi cynnal mudiad elusengar eu hun, y Seigel and Friend Foundation.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ https://neilsiegel.usc.edu/intellectual-property/systems-and-inventions/
- ↑ Siegel, Neil (26 Gorffennaf 2016). "In Memory of Judith Love Cohen: Mother, Wife, Friend, Author, Engineer". USC Viterbi School of Engineering. Cyrchwyd 13 Mehefin 2019.
- ↑ "US Patent for Ultra-low bandwidth intra-network routing method Patent (Patent # 6,701,375 issued March 2, 2004) - Justia Patents Search". patents.justia.com.
- ↑ "US Patent for Automated configuration of internet-like computer networks Patent (Patent # 6,212,559 issued April 3, 2001) - Justia Patents Search". patents.justia.com.
- ↑ US patent 7,256,731[dolen marw]
- ↑ US patent 5,672,840[dolen marw]
- ↑ http://neilsiegel.usc.edu
- ↑ "Faculty and post-doctoral positions | MAE".
- ↑ "NAE Members Directory – Dr. Neil G. Siegel". US National Academy of Engineering. Cyrchwyd Nodyn:Format date. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Fellow Class of 2011". IEEE. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 30, 2013. Cyrchwyd Nodyn:Format date. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "IEEE Simon Ramo Medal Recipients" (PDF). IEEE. Cyrchwyd Nodyn:Format date. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ 12.0 12.1 https://neilsiegel.usc.edu/awards/
- ↑ "iCMG winners by category, 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2022-01-27.
- ↑ "404 Page". www.globenewswire.com.
- ↑ FBCB2
- ↑ U.S. Patent number 5,672,840[dolen marw]
- ↑ U.S. Patent number 6,701,375[dolen marw]
- ↑ U.S. Patent number 7,278,023[dolen marw]
- ↑ U.S. Patent number 6,212,559[dolen marw]
- ↑ U.S. Patent number 7,256,731[dolen marw]
- ↑ "www.RobynFriend.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-04. Cyrchwyd 2022-01-27.
- ↑ "www.neyzen.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2022-01-27.
- ↑ www.neilsiegel.usc.edu
- ↑ https://neilsiegel.usc.edu/music/