Naguib Mahfouz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Nofelydd Eifftaidd oedd Naguib Mahfouz (11 Rhagfyr 191130 Awst, 2006). Enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel yn 1988.

Ganed ef yn ardal Gamaleyya o ddinas Cairo, yn fab i was sifil. Astudiodd ym Mhrifysgol Cairo, gan raddio yn 1934. Bu'n gweithio fel gwas sifil mewn nifer o adrannau. Cyhoeddodd 34 o nofelau a dros 350 o storïau byrion.

Gwnaeth ei gefnogaeth i gytundeb heddwch Anwar Sadat ag Israel a'i amddiffyniad o Salman Rushdie ef yn amhoblpogaidd mewn rhai cylchoedd yn y byd Arabaidd. Roedd hefyd helynt ynglŷn â'i waith ef ei hun, Plant Gebelawi. Yn 1994 gwnaed ymdrech i'w lofruddio tu allan i'w gatref yng Nghairo, pan drywanwyd ef yn ei wddf.


Baner EgyptEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eifftiwr neu Eifftes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.