Kilimanjaro
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mynydd Kilimanjaro)
| Kilimanjaro Kilimanjaro |
|
|---|---|
| Llun | Copa Kibo |
| Uchder | 5895m (19,340 troedfedd) |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Tanzania |
Kilimanjaro yng ngogledd-ddwyrain Tanzania yw mynydd uchaf Affrica. Ffurfir Kilimanjaro gan dri llosgfynydd, Kibo, Mawensi, a Shira.
Y copa uchaf yw Copa Uhuru ar y llosgfynydd Kibo. Y cyntaf i gyrraedd y copa yma oedd Yohanas Kinyala Lauwo, Hans Meyer a Ludwig Purtscheller, ar 6 Hydref, 1889. Mae Mawenzi yn 5,149 m (16,890 troedfedd) o uchder, a Shira yn 3,962 m (13,000 troedfedd).
Gellir dringo Uhuru heb brofiad blaenorol o ddringo ar eira a rhew, ac mae tripiau masnachol yn mynd a thwristiaid i'r copa. Fodd bynnag, mae cryn nifer yn gorfod troi'n ôl oherwydd effaith yr uchder.
Dynodwyd Parc Cenedlaethol Kilimanjaro yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.