Mycenae

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Porth y Llewod yn Mycenae

Hen ddinas, sydd nawr yn safle archaeolegol, yng Ngwlad Groeg yw Mycenae (Hen Roeg: Μυκῆναι, Mykēnai). Saif yng ngogledd-ddwyrain y Peloponnesos, tua 90 km i'r de-orllewin o Athen, 6 km i'r gogledd o Argos a 48 km i'r de o ddinas Corinth.

Yn yr ail fileniwm CC, roedd Mycenae yn un o ganolfannau pwysicaf Groeg. Rhoddodd ei enw i'r Gwareiddiad Myceneaidd, o tua 1600 CC hyd tua 1100 CC.

Ym Mytholeg Groeg, sefydlwyd Mycenae gan Perseus, mab Danaë, merch Acrisius, brenin Argos. Yr enwocaf o frenhinoedd mytholegol Mycenae oedd Agamemnon, mab Atreus, oedd yn arweinydd y Groegiaid yn Rhyfel Caerdroea.

Flag of Greece.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato