Mouloud Feraoun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mouloud Feraoun

Roedd Mouloud Feraoun (8 Mawrth, 1913 - 15 Mawrth, 1962) yn llenor Berber yn yr iaith Ffrangeg o Algeria, a aned yn nhref Tizi Hibel yn Uwch Kabylie.

Ei fywyd[golygu]

Wedi cyfnod o astudio yn école normale Algiers, treuliodd rai blynyddoedd yn athro ysgol cyn cael gwaith fel arolygydd canolfannau addysg. Roedd yn adnabod y llenor Ffrengig Albert Camus ac yn llythyru â fo yn 1951. Enillodd y Prix populiste yn 1953 am ei nofel La Terre et le sang. Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn Algeria cafodd Mouloud a phump o'i gyd-arolygyddion addysg ei lofruddio gan asasin o'r OAS de eithafol yn y Château Royal, Algiers.

Ei waith[golygu]

Prif destun ei waith yw'r ymchwil am hunaniaeth Berber a'r gwrthdaro anorfod rhwng yr hen a'r newydd yng nghyd-destun trefedigaeth. Un o'i weithiau gorau yw Jours de Kabylie, sy'n gyfres o frasluniau o fywyd mewn tref fach ddi-nod yng nghefngwlad Algeria, seiliedig i raddau helaeth ar ei brofiadau ei hun.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • La Terre et le sang (1953). Nofel.
  • Le Fils du pauvre (1954). Nofel. (cyfieithiwyd i'r Saesneg: The Poor Man's Son, University of Virginia Press)
  • Les chemins qui montent (1957). Nofel.
  • Les Poèmes de Si Mohand (1960). Golygiad o ddetholiad o gerddi gan y bardd iaith Berber Si Muhand U M'hand.
  • Journal, 1955-1962 (1962). Dyddiadur.
  • Jours de Kabylie (1968). Straeon byrion a brasluniau.
  • Lettres à ses amis (1969). Llythyrau.
  • L'Anniversaire (1972).

Dolen allanol[golygu]