Morlo Llwyd
Oddi ar Wicipedia
| Morlo Llwyd | |
|---|---|
| Morlo Llwyd ger Rhossili. | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Phocidae |
| Genws: | Halichoerus Nilsson, 1820 |
| Rhywogaeth: | H. grypus |
| Enw deuenwol | |
| Halichoerus grypus (Fabricius, 1791) |
|
Ceir y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) ar ddwy ochr Môr Iwerydd; ef yw'r mwyaf cyffredin o'r ddau rywogaeth o Forlo o gwmpas arfordir Cymru. Mae'n perthyn i deulu'r Phocidae, y "gwir forloi", a dyma'r unig rywogaeth yn y genws Halichoerus.
Morlo gweddol fawr yw'r Morlo Llwyd, gyda'r gwrywod yn cyrraedd 2.5 - 3 medr o hyd a phwysau o hyd at 300 kg; mae'r benywod yn llai, 1.6 - 2.0 medr o hyd a 150 kg o bwysau. Pysgod o wahanol fathau yw eu bwyd, a gallant blymio i ddyfnder o 70 medr neu fwy i'w dal. Genir y cenawon rhwng Medi a Tachwedd;
Amcangyfrifir fod poblogaeth o tua 5,000 o gwmpas arfordir Cymru i’r de o Aberystwyth, yn magu 1,300 o loi bach yn ôl amcangyfrif yn 2000.