Moel yr Acer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Moel yr Acre)
Neidio i: llywio, chwilio

Un o fryniau deheuol Bryniau Clwyd, Sir Ddinbych yw Moel yr Acer (neu Foel yr Acre yn ôl mapiau'r OS) (Cyfeirnod OS: SJ169525) ac fe saif 361 metr uwch lefel y môr. Mae'n debyg i'r fersiwn 'Acre' gael ei ysgrifennu gan gartograffwyr di-Gymraeg, ond 'acer' a ddywedir yn lleol.

Mae tua hanner cilometr i'r de o Moel y Waun. Fe ellir ei weld ar y chwith wrth drafaelio o Ruthun i Wrecsam drwy Nant y Garth. Gellir dweud mai dyma'r foel olaf a mwyaf deheuol o holl foelydd Dyffryn Clwyd.

Delweddau [golygu]