Moel Fferna
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Berwyn |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 630 metr |
Cyfesurynnau | 52.94827°N 3.3159°W |
Cod OS | SJ1168339800 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 105 metr |
Rhiant gopa | Cadair Berwyn |
Cadwyn fynydd | Y Berwyn |
Copa mwyaf gogleddol mynyddoedd Y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Moel Fferna. Saif ychydig i'r de o'r briffordd A5, i'r de-orllewin o bentref Glyndyfrdwy, ar y ffin rhwng siroedd Dinbych a Wrecsam; cyfeiriad grid SJ116397. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 525metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae Afon Ceiriog yn tarddu ar lechweddau deheuol Moel Fferna, lle mae Afon Ceiriog Ddu yn tarddu a llifo tua'r de. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yma, gyda chwarel Glyndyfrdwy ar lechweddau Moel Fferna yn un o chwareli pwysicaf gogledd-ddwyrain Cymru.
Y copa
[golygu | golygu cod]Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 630m (2067tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]