Menter Gorllewin Sir Gâr

Oddi ar Wicipedia

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn un o 22 o Fentrau Iaith yng Nghymru ac yn un o dair Fenter Iaith yn Sir Gâr.

Nod Menter Gorllewin Sir Gâr yw: Annog a chefnogi datblygiad cymunedol, ieithyddol ac economaidd er budd cyhoeddus a chreu cymunedau sy’n naturiol ddwyieithog a llewyrchus. Rydym yn gweithredu mewn ardal sy’n ymestyn o Lanybydder i Gastell Newydd Emlyn, i Gaerfyrddin, Sanclêr a Hendygwyn-ar-Daf. Mae’r Fenter wedi bod yn weithredol yn y ffurf bresennol ers 2007 pan unwyd Menter Taf Myrddin a Menter Bro Teifi i greu un endid ar draws yr ardal. Tra y lleolir y brif swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn, mae gan y Fenter ail swyddfa yng Nghaerfyrddin ac rydym yn rhan o rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru. Rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ieithyddol er mwyn: Annog mwy o deuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Cael mwy o bobl ifanc i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned Rydym yn gweithredu prosiectau datblygu cymunedol er mwyn: Cyflwyno technegau a’r offer gyfrifiadurol ddiweddaraf i drigolion lleol drwy arddangosiadau pwrpasol gan integreiddio’r genhedlaeth hŷn ac unigolion gofidus, llai profiadol i mewn i’r byd modern o gyfathrebu Cynorthwyo cymunedau i weithredu prosiectau sy’n mynd i’r afael a chael mynediad i wasanaethau a chynhwysiant cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig Sir Gâr. Cynyddu amlder digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ac i wella cynhwysedd grwpiau cymunedol i weithredu digwyddiadau llwyddiannus a chynaliadwy trwy gyfrwng y Gymraeg yn ardaloedd gwledig Sir Gâr.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]