Maya Angelou
Oddi ar Wicipedia
| Maya Angelou | |
|---|---|
Maya Angelou, Chwefror 2009 |
|
| Ganwyd | 4 Ebrill, 1928 St. Louis, Missouri, UDA |
| Enwau eraill | Marguerite Ann Johnson |
| Yn enwog am | I Know Why the Caged Bird Sings |
| Galwedigaeth | Awdures, bardd, ymgyrchydd hawliau sifil, dawnswraig, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, actoress |
Awdures a bardd Americanaidd ydy Maya Angelou (ganed Marguerite Ann Johnson ar 4 Ebrill, 1928). Fe'i disgrifiwyd fel "hunangofiannydd du mwyaf gweledol yr Unol Daleithiau" gan yr ysgolhaig Joanne M. Braxton. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei chwe chyfrol hunangofiannol, sy'n ffocysu ar ei phlentyndod a'i phrofiadau pan oedd yn oedolyn ifanc. Adrodda ei chyfrol gyntaf I Know Why the Caged Bird Sings (1969), hanesion ei dwy flynedd ar bymtheg cyntaf. Derbyniodd gydnabyddiaeth ryngwladol, ac fe'i henwebwyd am National Book Award. Mae hi wedi derbyn dros 30 o radd anrhydeddau ac fe'i henwebwyd am Gwobr Pulitzer am ei chyfrol o farddoniaeth Just Give Me a Cool Drink of Water 'Fore I Diiie (1971).