Matt Hancock

Oddi ar Wicipedia
Y Gwir Anrhydeddus
Matt Hancock
AS
Hancock yn 2020
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mewn swydd
9 Gorffennaf 2018 – 26 Mehefin 2021
Prif WeinidogTheresa May
Boris Johnson
Rhagflaenwyd ganJeremy Hunt
Dilynwyd ganSajid Javid
Aelod Seneddol
dros Gorllewin Suffolk
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2010
Rhagflaenwyd ganRichard Spring
Mwyafrif23,194 (45.1%)
Manylion personol
GanedMatthew John David Hancock
(1978-10-02) 2 Hydref 1978 (45 oed)
Caer, Swydd Caer, Lloegr
DinesyddBritish
Plaid gwleidyddolCeidwadwyr
PriodMartha Hoyer Millar
Plant3
AddysgYsgol The King's, Caer
Alma mater
Gwefanmatt-hancock.com

Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Matthew John David Hancock (ganwyd 2 Hydref 1978). Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhwng 2018 a 2021. Mae wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Gorllewin Suffolk ers 2010.

Cafodd ei eni yn Swydd Gaer. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol y Frenin, Caer, yng Ngholeg Exeter, Rhydychen ac yng Ngholeg Crist, Caergrawnt.

Ar 9 Gorffennaf 2018, ar ôl dyrchafiad Jeremy Hunt yn Ysgrifennydd Tramor, enwyd Hancock yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[1] Ar 25 Mai 2019, cyhoeddodd Hancock ei gynlluniau i redeg am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Tynnodd yn ôl o'r ras ar 14 Mehefin yn fuan ar ôl ennill dim ond ugain pleidlais ar y balot cyntaf.[2] Cyhoeddodd ei ymddiswyddiad o'i swydd fel Ysgrifennydd Iechyd ar 26 Mehefin 2021 ar ôl cael ei ffilmio yn cusanu cynorthwyydd agos ym mis Mai 2021, oedd yn mynd yn erbyn rheoliadau COVID ar y pryd. Roedd Boris Johnson wedi derbyn ei ymddiheuriad ond heb ei ymddiswyddo yn bersonol, ac oedd “ystyried bod y mater wedi cau”.[3] Fe wnaeth Sajid Javid ei olynu.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Matt Hancock replaces Jeremy Hunt as health secretary". The Independent (yn Saesneg). 2018-07-10. Cyrchwyd 2021-06-27.
  2. "Matt Hancock yn rhoi'r gorau i'w ymgyrch i olynu Theresa May". Golwg360. 2019-06-14. Cyrchwyd 2021-06-27.
  3. "Pwysau yn cynnyddu ar Hancock i ymddiswyddo". Golwg360. 2021-06-26. Cyrchwyd 2021-06-27.
  4. "Matt Hancock wedi ymddiswyddo". Golwg360. 2021-06-26. Cyrchwyd 2021-06-27.
  5. "Sajid Javid yw Ysgrifennydd Iechyd newydd San Steffan". Golwg360. 2021-06-27. Cyrchwyd 2021-06-27.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Spring
Aelod Seneddol dros Gorllewin Suffolk
6 Mai 2010–deiliad
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Jeremy Hunt
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
9 Gorffennaf 201826 Mehefin 2021
Olynydd:
Sajid Javid