Mario Puzo

Oddi ar Wicipedia
Mario Puzo
Mario Puzo mewn parti yn Efrog Newydd ym Mawrth 1972, y noson cyn dangos y ffilm The Godfather am y tro cyntaf yn Loew's State Theatre.
FfugenwMario Cleri Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Hydref 1920 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1999 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Long Island Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, sgriptiwr, ysgrifennwr, awdur ffuglen wyddonol, diplomydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Godfather Edit this on Wikidata
Arddullffuglen dditectif Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHonoré de Balzac Edit this on Wikidata
PriodErika Puzo Edit this on Wikidata
PlantDorothy Ann Puzo Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Urdd Awduron America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://mariopuzo.com Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd a sgriptiwr Americanaidd oedd Mario Puzo (15 Hydref 19202 Gorffennaf 1999) sydd yn nodedig am ei nofel The Godfather (1969), am gyd-ysgrifennu'r sgriptiau i'r addasiadau ffilm The Godfather (1972) a The Godfather Part II (1974), ac am sgriptio'r ffilmiau Superman (1978) a Superman II (1980).

Ganed yn Efrog Newydd i fewnfudwyr Eidalaidd o Napoli, a roedd ganddo 11 o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd ei dad yn gosod cledrau i Reilffordd Ganolog Efrog Newydd. Cafodd Mario ei fagu yn ardal Hell's Kitchen, Manhattan, ac wedi i'w dad adael y teulu pan oedd yn 12 oed bu'n rhaid i'w fam slafio i amddiffyn y plant rhag cyni'r slymiau. Gwasanaethodd Mario ym Myddin yr Unol Daleithiau yn yr Ail Ryfel Byd. Priododd Mario Puzo ag Almaenes o'r enw Erika Broske ym 1946, a chawsant dri mab a dwy ferch.

Gweithiodd Puzo fel clerc mewn swyddfa lywodraethol, ac ysgrifennai erthyglau a straeon byrion ar ei liwt ei hun. Derbyniodd rywfaint o glod am ei ddwy nofel gyntaf, The Dark Arena (1955) a The Fortunate Pilgrim (1965), ond nid fawr o lwyddiant. Pan oedd Puzo oddeutu 45 oed, roedd yn benderfynol o ysgrifennu llyfr a digon o fynd arno i ad-dalu ei ddyledion, a oedd wedi cyrraedd $20,000. Gydag ychydig o wybodaeth am dor-cyfraith cyfundrefnol o ganlyniad i'w flynyddoedd yn gamblo, ysgrifennodd nofel am y Maffia, yn canolbwyntio ar y teulu Corleone. Derbyniodd flaenswm o $5000 am The Godfather, a gyhoeddwyd ym 1969. Yn sgil llwyddiant ysgubol y llyfr, enillodd Puzo un miliwn o ddoleri a mwy o werthiannau yn ogystal â gwerthu'r hawliau i gyhoeddi'r llyfr yn rhyngwladol, i argraffu'r clawr papur, ac i addasu'r stori yn ffilm.[1] Cydweithiodd Puzo â Francis Ford Coppola i addasu ei stori ar gyfer y sgrin fawr. Enillodd Puzo a Coppola Wobr yr Academi am y Sgript Addasedig Orau ddwywaith, am The Godfather a The Godfather Part II.

Cafodd Puzo ei swyno gan gyffro a chyfaredd Hollywood, heb sôn am fyd y gamblo, ac ysgrifennodd ragor o sgriptiau, gan gynnwys y ddwy ffilm gyntaf yng nghyfres Superman, a The Cotton Club (1984). Bu farw ei wraig Erika ym 1978, a Carol Gino oedd ei gariad am ugain mlynedd olaf ei oes.[1] Ymhelaethodd Puzo ar stori epig y teulu Corleone yn The Sicilian (1984), dilyniant i The Godfather, sydd yn ymwneud â'r bandit go iawn Salvatore Giuliano. Traethir hanes teulu Maffia arall yn The Last Don (1996), ei nofel olaf a gyhoeddwyd yn ystod ei oes.

Bu farw Mario Puzo yn ei gartref yn Bay Shore, Long Island, yn nhalaith Efrog Newydd, yn 78 oed, o fethiant y galon.[2] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd Omertà (2000), stori arall am y Maffia, a The Family (2001), nofel hanesyddol am y Pab Alecsander VI a'r teulu Borgia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Eric Homberger, "Mario Puzo obituary", The Guardian (5 Gorffennaf 1999). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 23 Mehefin 2021.
  2. (Saesneg) Mel Gussow, "Mario Puzo, Author Who Made 'The Godfather' a World Addiction, Is Dead at 78", The New York Times (3 Gorffennaf 1999). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 23 Mehefin 2021.