Bandit (rhaglen deledu)
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bandit)
| Bandit | |
|---|---|
|
Logo'r rhaglen |
|
| Genre | Rhaglen gerddorol |
| Serennu | Huw Evans, Huw Stephens, Sarra Elgan |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | c. 30 munud |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
Rhaglen deledu yw Bandit a ddarlledir ar S4C, cynhyrchir y rhaglen gan Boomerang. Bwriad y rhaglen yw hybu cerddoriaeth newydd yng Nghymru, yn bennaf yn y Gymraeg, ond mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth o Gymru gyda telynegion mewn ieithoedd eraill (Saesneg yn bennaf).
Y cyflwynwyr yw Huw Evans, Huw Stephens a Sarra Elgan. Mae Bandit hefyd yn trefnu nifer o gigiau pob blwyddyn ac ystyrir y rhaglen i fod yn brif raglen cerddoriaeth S4C. Dengys yr enwebiadau niferus ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru boblogrwydd y rhaglen.[1] Enillont BAFTA ar gyfer 'Y Graffeg/Teitlau Gorau', mae'r sylw at fanylion hefyd wedi ei gario drosodd i'w gwefan.